Cost of Living Support Icon

Deunyddiau adeiladu ar y briffordd gyhoeddus

Gwybodaeth a ffurflenni cais am drwydded argyfer deunyddiau adeiladu ar y briffordd gyhoeddus

 

Os oes angen gosod deunyddiau adeiladu ar y briffordd fabwysiedig, mae angen trwydded o dan Adran 171 o Ddeddf Priffyrdd 1980. Os ydych chi'n gosod deunyddiau adeiladu ar dir preifat, fel ar eich dreif eich hun, yna ni fydd angen trwydded gan y Cyngor arnoch.

 

Mae'n bwysig cofio bod gan y Cyngor yr hawl i bennu amodau sy'n ymwneud â lleoliad unrhyw ddeunyddiau adeiladu ar y briffordd gan fod angen i ni reoli disgwyliadau defnyddiwr y rhwydwaith a sicrhau diogelwch y cyhoedd. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y telerau ac amodau sy'n esbonio'r pwyntiau allweddol yn well.

 

Sylwch, cyfrifoldeb y gweithredwr yw sicrhau y gwnaed gais am y drwydded a'i bod wedi'i rhoi cyn gosod unrhyw ddeunyddiau adeiladu.

 

Rhoddir trwyddedau am gyfnod o fis yn unig a chost trwydded ar hyn o bryd yw £130.00. Os bydd angen i'r deunyddiau fod ar y briffordd am fwy na mis, bydd angen i'r ymgeisydd wneud cais am drwydded newydd yn yr un modd ag y gwnaethant i ddechrau. Os oes angen y drwydded am lai na mis, bydd y tâl trwydded un mis yn dal i fod yn berthnasol.  Dylid cyflwyno ceisiadau am drwydded deunyddiau adeiladu o leiaf 1 diwrnod gwaith cyn i chi fwriadu eu gosod ar y briffordd fabwysiedig.

 

Cofrestru Contractwr

Rhaid i gontractwyr sy'n dymuno cael eu hystyried i fasnachu o fewn ffiniau Bro Morgannwg gofrestru fel cwsmer.

Rhaid cyflwyno manylion busnes llawn a chopi o'ch Tystysgrif Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus (£5 miliwn) drwy e-bost i'r cyfeiriad e-bost canlynol: skipsscaffolding@valeofglamorgan.gov.uk​​​​ 

 

Sut mae ymgeisio?

Ar ôl cofrestru, gallwch wneud cais ar-lein

 

Ar ôl derbyn eich cais, byddwn yn eich hysbysu am y penderfyniad i gyflwyno trwydded i chi naill ai dros y ffôn neu drwy e-bost o fewn 1 diwrnod gwaith.

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Pan fyddwch yn cyflwyno cais, bydd y lleoliad yn cael ei asesu i sicrhau ei addasrwydd ar y rhwydwaith priffyrdd mabwysiedig a hefyd sicrhau nad oes unrhyw bryderon o ran diogelwch y cyhoedd. Os caiff eich cais ei gymeradwyo, byddwch yn derbyn cadarnhad o hyn mewn e-bost a bydd dolen yn cael ei rhannu gyda chi er mwyn talu am y drwydded. Os oes gan swyddogion y Cyngor awgrym arall neu eitemau y bydd angen eu hegluro ymhellach, yna bydd y cais yn cael ei ddiweddaru ar-lein a bydd eich contractwr yn cael ei hysbysu drwy e-bost.

 

Ar ôl i'r drwydded gael ei rhoi ac ar ôl i chi osod eich deunyddiau adeiladu ar y briffordd, byddwch wedyn yn gallu defnyddio'r gofod y cytunwyd arno yn unol â'r telerau ac amodau.

 

Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a sicrhau bod y rhwydwaith priffyrdd yn rhydd o rwystrau anghyfreithlon, mae swyddogion y tîm cynnal a chadw priffyrdd yn gwneud gwiriadau rheolaidd a lle bo angen, byddwn yn defnyddio pwerau a roddwyd i ni fel awdurdod priffyrdd i gyflwyno dirwyon am beidio â chydymffurfio yn erbyn gweithgarwch anghyfreithlon o'r fath. Sylwer, os gwneir unrhyw ddifrod i'r briffordd yna bydd y costau atgyweirio llawn yn cael eu hadennill gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

  • Os byddwch yn methu â chydymffurfio â'r Telerau ac Amodau a’r holl ddeddfwriaeth berthnasol, byddwch yn agored i gamau gorfodi sy'n cynnwys Hysbysiad Cosb Benodedig Rhan IX Deddf Priffyrdd 1980 am Rwystro Priffordd.
  • Is-adran 137A Pŵer i orchymyn i’r troseddwr symud y rhwystr
  • Is-adran 171 meddiannu priffordd ac ati (Cyflawni Trosedd o dan yr is-adran hon) Cosb Benodedig o £150.00.
  • Adran 149 Symud pethau sy’n cael eu gadael ar Briffyrdd ac sy’n peri niwsans ac ati. (Pŵer i’w symud ac adennill costau).

Cwestiynau Cyffredin

 

  • Os oes gen i drwydded ar gyfer deunyddiau adeiladu mewn rhan arall o Fro Morgannwg, ydy’r drwydded honno’n ddigon?

    Na, mae'r drwydded yn benodol i'r cyfeiriad y gwnaed gais ar ei gyfer i ddechrau.

  • Beth os nad oes angen y drwydded y gwnaed gais amdani mwyach? Oes modd i mi gael ad-daliad?

    Bydd unrhyw geisiadau cymeradwy yn cael eu had-dalu dim ond os gwneir cais cyn dyddiad dechrau'r drwydded, yna gellir rhoi ad-daliad am y swm priodol. Fodd bynnag, os derbynnir cais ar ôl dyddiad dechrau'r drwydded, yna ni roddir ad-daliad.

  • Pa mor hir mae'n ei gymryd i brosesu’r cais?

    Mae angen i’r contractwr ar gyfer y cynhwysydd roi un diwrnod gwaith o rybudd i swyddogion y Cyngor i'n galluogi i adolygu a chyhoeddi trwydded. Fodd bynnag, gall gymryd mwy nag un diwrnod gwaith ar adegau, er enghraifft os oes pryderon traffig, neu barcio cyfreithiol, llwytho neu fannau anabl, efallai y bydd angen archwiliad safle i drafod amodau ac awgrymu lleoliadau amgen posibl ar gyfer gosod y cynhwysydd. Yn yr achosion hyn, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i gyhoeddi'r drwydded, ond bydd y contractwr dan sylw ar gyfer y cynhwysydd yn cael ei hysbysu drwy gydol y broses.

 

Os oes gennych ragor o gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â ni:

Cyngor Bro Morgannwg,
Adran Cynnal a Chadw Priffyrdd
Depo’r Alpau
Quarry Road
Gwenfô

CF5 6AA