Trwydded palis dros dro neu ffensys diogelwch safle
Gwybodaeth a ffurflenni cais trwydded ar gyfer palis dros dro neu ffensys diogelwch safle
Os oes angen gosod hysbysfwrdd neu ffens ddiogelwch safle dros dro ar y briffordd fabwysiedig, yna mae angen trwydded o dan Adran 172 o Ddeddf Priffyrdd 1980. Ni allwch chi fel perchennog cartref preifat neu fusnes wneud cais am hysbysfwrdd neu ffens ddiogelwch safle dros dro a bydd angen i chi gysylltu ag un o'r nifer o ddarparwyr cynwysyddion sydd ar gael. Os ydych chi'n gosod hysbysfwrdd neu ffens ddiogelwch safle dros dro ar dir preifat, fel ar eich dreif eich hun, yna ni fydd angen trwydded gan y Cyngor arnoch. Fodd bynnag, efallai y bydd y darparwr rydych chi’n ei ddewis yn gallu rhoi mwy o gyngor i chi yn dibynnu ar y lleoliad arfaethedig.
Mae'n bwysig cofio bod gan y Cyngor yr hawl i bennu amodau sy'n ymwneud â lleoliad unrhyw hysbysfwrdd neu ffens ddiogelwch safle dros dro ar y briffordd gan fod angen i ni reoli disgwyliadau defnyddiwr y rhwydwaith a sicrhau diogelwch y cyhoedd. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y telerau ac amodau sy'n egluro'r pwyntiau allweddol yn well.
Sylwch, cyfrifoldeb y gweithredwr hysbysfyrddau / ffensys Heras yw sicrhau y gwnaed gais am y drwydded a'i bod wedi'i rhoi cyn eu gosod.
Rhoddir trwyddedau am gyfnod o fis yn unig a chost trwydded ar hyn o bryd yw £135.00. Os bydd angen i'r hysbysfyrddau neu ffensys diogelwch safle dros dro fod i fyny am fwy na mis, bydd angen i'r darparwr wneud cais am drwydded newydd yn yr un modd ag y gwnaethant i ddechrau. Os oes angen y drwydded am lai na mis, bydd y tâl trwydded un mis yn dal i fod yn berthnasol. Dylid cyflwyno ceisiadau am drwydded o leiaf 1 diwrnod gwaith cyn i'ch contractwr fwriadu ei osod ar y briffordd fabwysiedig.
Cofrestru Contractwr
Rhaid i gontractwyr sy'n dymuno cael eu hystyried i fasnachu o fewn ffiniau Bro Morgannwg gofrestru fel cwsmer.
Rhaid cyflwyno manylion busnes llawn a chopi o'ch Tystysgrif Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus (£5 miliwn) drwy e-bost i'r cyfeiriad e-bost canlynol: skipsscaffolding@valeofglamorgan.gov.uk
Sut fyddai contractwr yn gwneud cais?
Ar ôl cofrestru gallwch wneud cais ar-lein.
Ar ôl derbyn eich cais, byddwn yn eich hysbysu am y penderfyniad i gyflwyno trwydded i chi naill ai dros y ffôn neu drwy e-bost o fewn 1 diwrnod gwaith.
.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Pan fydd eich contractwr yn cyflwyno cais, bydd y lleoliad yn cael ei asesu i sicrhau ei addasrwydd ar y rhwydwaith priffyrdd mabwysiedig a hefyd sicrhau nad oes unrhyw bryderon o ran diogelwch y cyhoedd. Os cymeradwyir cais eich contractwr, bydd yn derbyn cadarnhad o hyn mewn e-bost a bydd dolen yn cael ei rhannu gyda nhw i alluogi'r contractwr i dalu am y drwydded. Os oes gan swyddogion y Cyngor awgrym arall neu eitemau y bydd angen eu hegluro ymhellach, yna bydd y cais yn cael ei ddiweddaru ar-lein a bydd eich contractwr yn cael ei hysbysu drwy e-bost.
Ar ôl i'r drwydded gael ei rhoi gall eich contractwr osod yr hysbysfyrddau neu ffensys diogelwch safle dros dro ar y briffordd, gan gadw at y telerau ac amodau.
Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a sicrhau bod y rhwydwaith priffyrdd yn rhydd o rwystrau anghyfreithlon, mae swyddogion y tîm cynnal a chadw priffyrdd yn gwneud gwiriadau rheolaidd a lle bo angen, byddwn yn defnyddio pwerau a roddwyd i ni fel awdurdod priffyrdd i gyflwyno dirwyon am beidio â chydymffurfio yn erbyn gweithgarwch anghyfreithlon o'r fath. Sylwer, os gwneir unrhyw ddifrod i'r briffordd yna bydd y costau atgyweirio llawn yn cael eu hadennill gan Gyngor Bro Morgannwg.
- Os byddwch yn methu â chydymffurfio â'r Telerau ac Amodau a’r holl ddeddfwriaeth berthnasol, byddwch yn agored i gamau gorfodi sy'n cynnwys Hysbysiad Cosb Benodedig Rhan IX Deddf Priffyrdd 1980 am Rwystro Priffordd.
- Is-adran 137A Pŵer i orchymyn i’r troseddwr symud y rhwystr Cosb Benodedig o £150.00
- Is-adran 171 meddiannu priffordd ac ati (Cyflawni Trosedd o dan yr is-adran hon) Cosb Benodedig o £150.00.
- Is-adran 149 Symud eitemau adawyd ar Briffyrdd gan achosi niwsans ac ati (Grym i symud ac adennill costau).
Cwestiynau Cyffredin
-
Beth os yw'r contractwr yn gosod yr hysbysfyrddau neu'r ffensys diogelwch safle dros dro ar fy eiddo ac nad oes angen y drwydded y gwnaed gais amdani mwyach. Oes modd i mi gael ad-daliad?
Mae'n gyfrifoldeb ar eich darparwr o ddewis i asesu eich cais yn ofalus yn gynnar. Bydd unrhyw geisiadau cymeradwy yn cael eu had-dalu dim ond os gwneir cais cyn dyddiad dechrau'r drwydded, yna gellir rhoi ad-daliad am y swm priodol. Fodd bynnag, os derbynnir cais ar ôl dyddiad dechrau'r drwydded, yna ni roddir ad-daliad.
-
A yw'r Cyngor yn darparu hysbysfyrddau neu ffensys diogelwch safle dros dro?
Na, yn anffodus nid ydym yn darparu'r gwasanaeth hwn.
-
Os oes gennyf drwydded ar gyfer hysbysfyrddau neu ffensys diogelwch safle dros dro mewn rhan arall o Fro Morgannwg, ydy’r drwydded honno’n ddigon?
Na, mae'r drwydded yn benodol i'r cyfeiriad y gwnaed gais ar ei gyfer i ddechrau.
-
Pa mor hir mae'n ei gymryd i brosesu’r cais?
Mae angen i’r contractwr roi un diwrnod gwaith o rybudd i swyddogion y Cyngor i'n galluogi i adolygu a chyhoeddi trwydded. Fodd bynnag, gall gymryd mwy nag un diwrnod gwaith ar adegau, er enghraifft os oes pryderon traffig, neu barcio cyfreithiol, llwytho neu fannau anabl, efallai y bydd angen archwiliad safle i drafod amodau ac awgrymu lleoliadau amgen posibl ar gyfer gosod yr hysbysfyrddau neu ffensys diogelwch safle dros dro. Yn yr achosion hyn, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i gyhoeddi'r drwydded ond bydd y contractwr dan sylw yn cael ei hysbysu drwy gydol y broses.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni:
Cyngor Bro Morgannwg,
Adran Cynnal a Chadw Priffyrdd
Depo'r Alpau
Quarry Road
Gwenfô
CF5 6AA