Trwydded Toiled Cludadwy
Gwybodaeth a ffurflenni cais am drwydded ar gyfer Toiledau Cludadwy
Os oes angen gosod Toiled Cludadwy ar y briffordd fabwysiedig, mae angen trwydded o dan Adran 171(5) o Ddeddf Priffyrdd 1980. Os ydych chi'n gosod offer ar dir preifat, fel ar eich dreif eich hun, ni fydd angen trwydded gan y Cyngor arnoch, fodd bynnag, efallai y bydd y darparwr rydych chi’n ei ddewis yn gallu rhoi gwell cyngor i chi yn dibynnu ar y lleoliad arfaethedig.
Mae'n bwysig cofio bod gan y Cyngor yr hawl i bennu amodau sy'n ymwneud â lleoliad unrhyw Doiled Cludadwy ar y briffordd gan fod angen i ni reoli disgwyliadau defnyddiwr y rhwydwaith a sicrhau diogelwch y cyhoedd. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y telerau ac amodau sy'n esbonio'r pwyntiau allweddol yn well.
Sylwch, cyfrifoldeb gweithredwr y Toiled Cludadwy yw sicrhau y gwnaed cais am y drwydded a'i bod wedi'i chyhoeddi cyn gosod y Toiled Cludadwy.
Rhoddir trwyddedau am gyfnod o fis yn unig a chost trwydded ar hyn o bryd yw £130.00. Os bydd angen i'r Toiled Cludadwy barhau am fwy na mis, bydd angen i'r darparwr wneud cais am drwydded newydd yn yr un modd ag y gwnaethant i ddechrau. Os oes angen y drwydded am lai na mis, bydd y tâl trwydded un mis yn dal i fod yn berthnasol. Dylid cyflwyno ceisiadau am drwydded Toiled Cludadwy o leiaf 1 diwrnod gwaith cyn i'ch contractwr fwriadu ei osod ar y briffordd fabwysiedig.
Cofrestru Contractwr
Rhaid i gontractwyr sy'n dymuno cael eu hystyried i fasnachu o fewn ffiniau Bro Morgannwg gofrestru fel cwsmer.
Rhaid cyflwyno manylion busnes llawn a chopi o'ch Tystysgrif Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus (£5 miliwn) drwy e-bost i'r cyfeiriad e-bost canlynol:
skipsscaffolding@valeofglamorgan.gov.uk
Sut fyddai contractwr yn gwneud cais?
Ar ôl cofrestru, gallwch wneud cais ar-lein https://valeofglamorgancouncilcustomerportal.achieveservice.com/en/service/highway_licenses
Ar ôl derbyn eich cais, byddwn yn eich hysbysu am y penderfyniad i gyflwyno trwydded i chi naill ai dros y ffôn neu drwy e-bost o fewn 1 diwrnod gwaith.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Pan fydd eich contractwr yn cyflwyno cais, bydd y lleoliad yn cael ei asesu i sicrhau ei addasrwydd ar y rhwydwaith priffyrdd mabwysiedig a hefyd sicrhau nad oes unrhyw bryderon o ran diogelwch y cyhoedd. Os cymeradwyir cais eich contractwr, bydd yn derbyn cadarnhad o hyn mewn e-bost a bydd dolen yn cael ei rhannu gyda nhw i alluogi'r contractwr i dalu am y drwydded. Os oes gan swyddogion y Cyngor awgrym arall neu eitemau y bydd angen eu hegluro ymhellach, yna bydd y cais yn cael ei ddiweddaru ar-lein a bydd eich contractwr yn cael ei hysbysu drwy e-bost.
Ar ôl i'r drwydded gael ei rhoi a'ch contractwr gosod yr offer, mae'n hanfodol eu bod yn cadw at y telerau ac amodau, ac mae swyddogion y Cyngor yn gwirio’n rheolaidd.
Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a sicrhau bod y rhwydwaith priffyrdd yn rhydd o rwystrau anghyfreithlon, mae swyddogion y tîm cynnal a chadw priffyrdd yn gwneud gwiriadau rheolaidd a lle bo angen, byddwn yn defnyddio pwerau a roddwyd i ni fel awdurdod priffyrdd i gyflwyno dirwyon am beidio â chydymffurfio yn erbyn gweithgarwch anghyfreithlon o'r fath. Sylwer, os gwneir unrhyw ddifrod i'r briffordd yna bydd y costau atgyweirio llawn yn cael eu hadennill gan Gyngor Bro Morgannwg.
- Os byddwch yn methu â chydymffurfio â'r Telerau ac Amodau a’r holl ddeddfwriaeth berthnasol, byddwch yn agored i gamau gorfodi sy'n cynnwys Hysbysiad Cosb Benodedig Rhan IX Deddf Priffyrdd 1980 am Rwystro Priffordd.
- Is-adran 137A Pŵer i orchymyn i’r troseddwr symud y rhwystr
- Is-adran 171 meddiannu priffordd ac ati (Cyflawni Trosedd o dan yr is-adran hon) Cosb Benodedig o £150.00.
- Adran 149 Symud pethau sy’n cael eu gadael ar Briffyrdd ac sy’n peri niwsans ac ati. (Pŵer i’w symud ac adennill costau).
Cwestiynau Cyffredin
-
Pa mor hir mae'n ei gymryd i brosesu’r cais?
Mae angen i’r contractwr Toiledau Cludadwy roi un diwrnod gwaith o rybudd i swyddogion y Cyngor i'n galluogi i adolygu a chyhoeddi trwydded, fodd bynnag, gall gymryd mwy nag un diwrnod gwaith ar adegau, er enghraifft os oes pryderon traffig, neu barcio cyfreithiol, llwytho neu fannau anabl, efallai y bydd angen archwiliad safle i drafod amodau ac awgrymu lleoliadau amgen posibl ar gyfer gosod y Toiledau Cludadwy. Yn yr achosion hyn, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i gyhoeddi'r drwydded ond bydd y contractwr Toiledau Cludadwy dan sylw yn cael ei hysbysu drwy gydol y broses.
Os oes gennych ragor o gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â ni:
Cyngor Bro Morgannwg,
Adran Cynnal a Chadw Priffyrdd
Depo’r Alpau
Quarry Road
Gwenfô
CF5 6AA