Cost of Living Support Icon

Crane Cludadwy a Picker Ceirios 

Cais am drwydded Craen hydrolig/ Llwyfan Gwaith Uchel Symudol / Craen gan gynnwys offer arall ar y briffordd

Os oes angen i chi osod Craen hydrolig/ Llwyfan Gwaith Uchel Symudol / Craen gan gynnwys offer codi ar y briffordd fabwysiedig, mae angen Trwydded Briffordd arnoch. Os ydych chi'n gosod offer codi ar dir preifat, fel ar eich dreif eich hun, ni fydd angen trwydded gan y Cyngor arnoch, fodd bynnag, efallai y bydd y darparwr rydych chi’n ei ddewis yn gallu rhoi gwell cyngor i chi yn dibynnu ar y lleoliad arfaethedig.

 

Mae'n bwysig cofio bod gan y Cyngor yr hawl i bennu amodau sy'n ymwneud â lleoliad y Craen hydrolig/ Llwyfan Gwaith Uchel Symudol / Craen gan gynnwys offer codi ar y briffordd gan fod angen i ni reoli disgwyliadau defnyddwyr y rhwydwaith a sicrhau diogelwch y cyhoedd. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y telerau ac amodau sy'n esbonio'r pwyntiau allweddol yn well.

 

Sylwch, cyfrifoldeb y gweithredwr yw sicrhau y gwnaed cais am ganiatâd a'i bod wedi'i chyhoeddi cyn gosod y cyfarpar.

 

Rhoddir trwyddedau am gyfnod o fis yn unig. Os bydd angen i'r Craen hydrolig/ Llwyfan Gwaith Uchel Symudol / Craen gan gynnwys offer codi barhau am fwy na mis, bydd angen i'r darparwr wneud cais am drwydded newydd yn yr un modd ag y gwnaeth i ddechrau. Os oes angen y drwydded am lai na mis, bydd y tâl trwydded un mis yn dal i fod yn berthnasol.  Dylid cyflwyno ceisiadau am drwydded o leiaf 1 diwrnod gwaith cyn i'ch contractwr fwriadu ei osod ar y briffordd fabwysiedig.

 

Cofrestru Contractwr

Rhaid i gontractwyr sy'n dymuno cael eu hystyried i fasnachu o fewn ffiniau Bro Morgannwg gofrestru fel cwsmer.
Rhaid cyflwyno manylion busnes llawn a chopi o'ch Tystysgrif Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus (£5 miliwn) drwy e-bost i'r cyfeiriad e-bost canlynol: skipsscaffolding@valeofglamorgan.gov.uk​​​​ 

 

 

Sut fyddai contractwr yn gwneud cais?

Ar ôl cofrestru, gallwch wneud cais ar-lein https://valeofglamorgancouncilcustomerportal.achieveservice.com/en/service/highway_licenses

Ar ôl derbyn eich cais, byddwn yn eich hysbysu am y penderfyniad i gyflwyno trwydded i chi naill ai dros y ffôn neu drwy e-bost o fewn 1 diwrnod gwaith.

 

Beth sy’n digwydd nesaf?

Pan fydd eich contractwr yn cyflwyno cais, bydd y lleoliad yn cael ei asesu i sicrhau ei addasrwydd ar y rhwydwaith priffyrdd mabwysiedig a hefyd sicrhau nad oes unrhyw bryderon o ran diogelwch y cyhoedd. Os cymeradwyir cais eich contractwr, bydd yn derbyn cadarnhad o hyn mewn e-bost a bydd dolen yn cael ei rhannu gyda nhw i alluogi'r contractwr i dalu am y drwydded. Os oes gan swyddogion y Cyngor awgrym arall neu eitemau y bydd angen eu hegluro ymhellach, yna bydd y cais yn cael ei ddiweddaru ar-lein a bydd eich contractwr yn cael ei hysbysu drwy e-bost.

 

Ar ôl i'r drwydded gael ei rhoi a'ch contractwr gosod yr offer, mae'n hanfodol eu bod yn cadw at y telerau ac amodau, ac mae swyddogion y Cyngor yn gwirio’n rheolaidd. DOLEN I’R TELERAU AC AMODAU

 

Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a sicrhau bod y rhwydwaith priffyrdd yn rhydd o rwystrau anghyfreithlon, mae swyddogion y tîm cynnal a chadw priffyrdd yn gwneud gwiriadau rheolaidd a lle bo angen, byddwn yn defnyddio pwerau a roddwyd i ni fel awdurdod priffyrdd i gyflwyno dirwyon am beidio â chydymffurfio yn erbyn gweithgarwch anghyfreithlon o'r fath. Sylwer, os gwneir unrhyw ddifrod i'r briffordd yna bydd y costau atgyweirio llawn yn cael eu hadennill gan Gyngor Bro Morgannwg.

  •  Os byddwch yn methu â chydymffurfio â'r Telerau ac Amodau a’r holl ddeddfwriaeth berthnasol, byddwch yn agored i gamau gorfodi sy'n cynnwys Hysbysiad Cosb Benodedig Rhan IX Deddf Priffyrdd 1980 am Rwystro Priffordd.
  • Is-adran 137A Pŵer i orchymyn i’r troseddwr symud y rhwystr Cosb Benodedig o £150.00
  • Is-adran 171 meddiannu priffordd ac ati (Cyflawni Trosedd o dan yr is-adran hon) Cosb Benodedig o £150.00.
  • Is-adran 149 Symud eitemau a adawyd ar Briffyrdd gan achosi niwsans ac ati (Grym i symud ac adennill costau).

Cwestiynau Cyffredin

 

  • Beth os yw'r contractwr yn gosod y Craen hydrolig/ Llwyfan Gwaith Uchel Symudol / Craen gan gynnwys offer codi arall ar fy eiddo ac nad oes angen y drwydded y cais amdano mwyach. Oes modd i mi gael ad-daliad?

    Mae'n gyfrifoldeb ar eich darparwr o ddewis i asesu eich cais yn ofalus yn gynnar. Bydd unrhyw geisiadau cymeradwy yn cael eu had-dalu dim ond os gwneir cais cyn dyddiad dechrau'r drwydded, yna gellir rhoi ad-daliad am y swm priodol. Fodd bynnag, os derbynnir cais ar ôl dyddiad dechrau'r drwydded, yna ni roddir ad-daliad.

  • A yw'r Cyngor yn darparu'r gwasanaeth hwn i'r cyhoedd?

    Na, yn anffodus nid ydym yn darparu'r gwasanaeth hwn.

  • Os oes gen i drwydded, a gaf i ddefnyddio hon mewn rhan arall o Fro Morgannwg ac ydw i wedi fy nghwmpasu?

    Na, mae'r drwydded yn benodol i'r cyfeiriad y gwnaed gais ar ei gyfer i ddechrau.  

     

  • Pa mor hir mae'n ei gymryd i brosesu’r cais?

    Mae angen i’r contractwr roi un diwrnod gwaith o rybudd i swyddogion y Cyngor i'n galluogi i adolygu a chyhoeddi trwydded. Fodd bynnag, gall gymryd mwy nag un diwrnod gwaith ar adegau, er enghraifft os oes pryderon traffig, neu barcio cyfreithiol, llwytho neu fannau anabl, efallai y bydd angen archwiliad safle i drafod amodau ac awgrymu lleoliadau amgen posibl ar gyfer gosod yr hysbysfyrddau neu ffensys diogelwch safle dros dro. Yn yr achosion hyn, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i gyhoeddi'r drwydded ond bydd y contractwr dan sylw yn cael ei hysbysu drwy gydol y broses.

 

Os oes gennych ragor o gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â ni:

Cyngor Bro Morgannwg,
Adran Cynnal a Chadw Priffyrdd
Depo’r Alpau
Quarry Road
Gwenfô
CF5 6AA