Trwydded Sgaffaldau
Gwybodaeth a ffurflenni cais am drwydded ar gyfer sgaffaldau
Os oes angen gosod sgaffaldau ar y briffordd fabwysiedig, mae angen trwydded o dan Adran 172 o Ddeddf Priffyrdd 1980. Ni allwch chi fel perchennog cartref preifat neu fusnes wneud cais am drwydded sgaffaldau a bydd angen i chi gysylltu ag un o'r nifer o ddarparwyr sgaffaldau sydd ar gael. Os ydych chi'n gosod sgaffaldau ar dir preifat, fel ar eich dreif eich hun, ni fydd angen trwydded gan y Cyngor arnoch, fodd bynnag, efallai y bydd y darparwr rydych chi’n ei ddewis yn gallu rhoi gwell cyngor i chi yn dibynnu ar y lleoliad arfaethedig.
Mae'n bwysig cofio bod gan y Cyngor yr hawl i bennu amodau sy'n ymwneud â lleoliad unrhyw sgaffaldau ar y briffordd gan fod angen i ni reoli disgwyliadau defnyddwyr y rhwydwaith a sicrhau diogelwch y cyhoedd. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y telerau ac amodau sy'n esbonio'r pwyntiau allweddol yn well.
Sylwch, cyfrifoldeb y gweithredwr sgaffaldau yw sicrhau y gwnaed gais am y drwydded a'i bod wedi'i rhoi cyn dechrau’r gwaith gosod.
Rhoddir trwyddedau am gyfnod o fis yn unig a chost trwydded ar hyn o bryd yw £135.00. Os bydd angen i'r sgaffaldau barhau am fwy na mis, bydd angen i'r darparwr wneud cais am drwydded newydd yn yr un modd ag y gwnaethant i ddechrau. Os oes angen y drwydded am lai na mis, bydd y tâl trwydded un mis yn dal i fod yn berthnasol. Dylid cyflwyno ceisiadau am drwydded o leiaf 1 diwrnod gwaith cyn i'ch contractwr fwriadu ei osod ar y briffordd fabwysiedig.
Cofrestru Contractwr
Rhaid i gontractwyr sy'n dymuno cael eu hystyried i fasnachu o fewn ffiniau Bro Morgannwg gofrestru fel cwsmer.
Rhaid cyflwyno manylion busnes llawn a chopi o'ch Tystysgrif Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus (£5 miliwn) drwy e-bost i'r cyfeiriad e-bost canlynol: skipsscaffolding@valeofglamorgan.gov.uk
Sut fyddai contractwr yn gwneud cais?
Ar ôl cofrestru, gallwch wneud cais ar-lein.
Ar ôl derbyn eich cais, byddwn yn eich hysbysu am y penderfyniad i gyflwyno trwydded i chi naill ai dros y ffôn neu drwy e-bost o fewn 1 diwrnod gwaith.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Pan fydd eich contractwr yn gwneud cais, bydd y lleoliad yn cael ei asesu i sicrhau ei addasrwydd ar y rhwydwaith priffyrdd mabwysiedig a hefyd sicrhau nad oes unrhyw bryderon o ran diogelwch y cyhoedd. Os cymeradwyir cais eich contractwr, bydd yn derbyn cadarnhad o hyn mewn e-bost a bydd dolen yn cael ei rhannu â nhw i alluogi'r contractwr i dalu am y drwydded. Os oes gan swyddogion y Cyngor awgrym arall neu eitemau y bydd angen eu hegluro ymhellach, bydd y cais yn cael ei ddiweddaru ar-lein a bydd eich contractwr yn cael ei hysbysu.
Ar ôl i'r drwydded gael ei rhoi a'ch contractwr gosod yr offer, mae'n hanfodol eu bod yn cadw at y telerau ac amodau, ac mae swyddogion y Cyngor yn gwirio’n rheolaidd.
- Os byddwch yn methu â chydymffurfio â'r Telerau ac Amodau a’r holl ddeddfwriaeth berthnasol, byddwch yn agored i gamau gorfodi sy'n cynnwys Hysbysiad Cosb Benodedig Rhan IX Deddf Priffyrdd 1980 am Rwystro Priffordd.
- Is-adran 137A Pŵer i orchymyn i’r troseddwr symud y rhwystr Cosb Benodedig o £150.00
- Is-adran 171 meddiannu priffordd ac ati (Cyflawni Trosedd o dan yr isadran hon) Cosb Benodedig o £150.00.
- Is-adran 149 Symud eitemau a adawyd ar Briffyrdd gan achosi niwsans ac ati (Grym i symud ac adennill costau).
- Adran 169 Rheoli Sgaffaldau (Cyflawni trosedd dan yr adran hon) Cosb benodedig o £150.00
- Adran 140 Symud Sgaffaldau Adeiladwyr (Pŵer i symud ac adennill costau)
Cwestiynau Cyffredin
-
Beth os yw'r contractwr yn gosod y sgaffaldau ar fy eiddo ac nad oes angen y drwydded y gwnaed gais amdani mwyach? Oes modd i mi gael ad-daliad?
Mae'n gyfrifoldeb ar eich darparwr o ddewis i asesu eich cais yn ofalus yn gynnar. Bydd unrhyw geisiadau cymeradwy yn cael eu had-dalu dim ond os gwneir cais cyn dyddiad dechrau'r drwydded, gellir rhoi ad-daliad am y swm priodol. Fodd bynnag, os derbynnir cais ar ôl dyddiad dechrau'r drwydded, ni roddir ad-daliad.
-
A yw'r Cyngor yn darparu sgaffaldau?
Na, yn anffodus nid ydym yn darparu'r gwasanaeth hwn.
-
Os oes gen i drwydded ar gyfer sgaffaldau mewn rhan arall o Fro Morgannwg, ydy’r drwydded honno’n ddigon?
Na, mae'r drwydded yn benodol i'r cyfeiriad y gwnaed gais ar ei gyfer i ddechrau.
-
Pa mor hir mae'n ei gymryd i brosesu’r cais?
Mae angen i’r contractwr roi un diwrnod gwaith o rybudd i swyddogion y Cyngor i'n galluogi i adolygu a chyhoeddi trwydded. Fodd bynnag, gall gymryd mwy nag un diwrnod gwaith ar adegau, er enghraifft os oes pryderon traffig, neu barcio cyfreithiol, llwytho neu fannau anabl, efallai y bydd angen archwiliad safle i drafod amodau ac awgrymu lleoliadau amgen posibl ar gyfer gosod yr hysbysfyrddau neu ffensys diogelwch safle dros dro. Yn yr achosion hyn, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i gyhoeddi'r drwydded ond bydd y contractwr dan sylw yn cael ei hysbysu drwy gydol y broses.
Os oes gennych ragor o gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â ni:
Cyngor Bro Morgannwg,
Adran Cynnal a Chadw Priffyrdd
Depo’r Alpau
Quarry Road
Gwenfô
CF5 6AA