Cost of Living Support Icon

Cerdyn Argyfwng i Ofalwyr

Mae’r Cerdyn Argyfwng i Ofalwyr yn helpu i drefnu bod rhywun yn cael gofal os bydd rhywbeth annisgwyl yn digwydd i'w ofalwr.

 

Un o'r pryderon mwyaf i ofalwyr yw sut y byddai'r aelod o'r teulu neu ffrind sy'n dibynnu arnynt yn ymdopi pe bai unrhyw beth yn digwydd i’w gofalwr. 


Mewn ymateb i hyn, mae Gofalwyr Cymru wedi llunio cerdyn newydd ar gyfer gofalwyr. Petai argyfwng neu ddamwain, mae cario’r cerdyn hwn yn sicrhau y rhoddir gwybod i gweithwyr brys ac eraill bod rhywun yn dibynnu arnoch chi fel gofalwr. Mae lle i nodi manylion cyswllt mewn argyfwng ar y cerdyn, er enghraifft teulu neu ffrindiau sy’n gallu helpu:

 

 

Nid oes angen asesiad gofalwr i gael Cerdyn Argyfwng Gofalwyr Cymru (CEC). Cerdyn Gofalwyr Cymru:

 

  • Mae’r cerdyn ei hun yr un maint â cherdyn credyd y gellir ei gadw yn hawdd yn eich pwrs neu waled.

  • Mae’n nodi ba rifau ffôn i’w galw petai argyfwng.

 

Ymgeisio am CEC

Gall gofalwyr sy’n dymuno cael Cerdyn Gofalwr gysylltu â Gofalwyr Cymru. Gellir gwneud hyn dros:

 

  • E-bost: info@carerswales.org Bydd rhaid i’r gofalwr roi ei enw a chyfeiriad a gofyn am gerdyn. 
  • Ar y ffôn: 02920811370. Gadewch neges os na fydd rhywun yn ateb eich galwad, gan ofyn i rywun eich ffonio yn ôl. 
  • Unwaith y bydd Gofalwyr Cymru wedi cael y cais a'r manylion cyswllt, byddant yn anfon y cerdyn i'r cyfeiriad a nodir drwy'r post.