Sesiynau cyngor galw heibio Cyngor ar Bopeth Caerdydd a’r Fro
Mae Cyngor ar Bopeth Caerdydd a’r Fro yn cynnal sesiynau cyngor costau byw galw heibio i drigolion yn 119 Broad Street, Y Barri, bob Dydd Llun a Dydd Iau rhwng 9am a 6pm. Nid oes angen apwyntiad.
Mae Cyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro yn cynnig cyngor wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac e-bost yn swyddfa'r Barri, lleoliadau allgymorth ar draws Bro Morgannwg a hefyd drwy wasanaeth Advicelink Cymru, y gellir ei ffonio ar 0800 7022 020.
Gall cleientiaid sydd angen trosglwyddo testun ffonio 18001 08082 505720.
Mae'r llinellau ar agor rhwng 8am — 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 9am — 1pm ddydd Sadwrn (ar gau ar wyliau banc).