Cost of Living Support Icon

Cymorth i bobl hŷn

Cymorth ac adnoddau i bobl hŷn ym Mro Morgannwg.

 

Cynllun Pàs Aur

Mae'r prosiect hwn yn cynnig i drigolion 60+ y Fro wyth sesiwn chwaraeon a gweithgarwch corfforol am ddim yn eu cymuned.

Credyd Pensiwn

Mae'n bosib y byddwch yn gymwys i hawlio Credyd Pensiwn os ydych dros oedran pensiwn y wladwriaeth. Mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael ychwanegiad i’ch incwm wythnosol fel eich bod yn derbyn £182.60 yr wythnos (fel person sengl) a £278.70 (fel cwpl).

Gofal a Thrwsio Caerdydd a Bro Morgannwg

Helpu pobl hŷn i atgyweirio, addasu a chynnal eu cartrefi. Gydag ymweliadau cartref am ddim, asesiadau cartref, ac argymhellion ar wella'ch cartref.

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Sut i gysylltu â Thîm Cyngor a Chymorth y Comisiynydd a dod o hyd i gymorth os ydych yn profi camdriniaeth.

Age Connects Caerdydd a’r Fro

Mae Age Connects yn cefnogi pobl hŷn unig ac agored i niwed ledled Caerdydd a'r Fro.

Taliad Costau Angladd

Gallech gael Taliad Costau Angladd (a elwir hefyd yn Daliad Angladd) os ydych yn cael budd-daliadau penodol ac angen help i dalu am angladd rydych ei drefnu.

Dinas Powys Voluntary Concern

Mae Dinas Powys Voluntary Concern yn cynnig trafnidiaeth gymunedol, gwasanaeth casglu presgripsiynau a chyfeillio dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Maent hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau fel clwb cinio cawl, caffi cof, gardd les, clwb cymunedol yn y prynhawn, te mefus a digwyddiadau cerddoriaeth fyw. 

Mannau Cynnes

Fel rhan o'n gwaith i gefnogi trigolion yn ystod yr argyfwng costau byw, rydym wedi datblygu cynllun Mannau Cynnes,   Mae hwn yn rhwydwaith o fannau cymunedol sy'n cynnig lle cynnes a braf i bobl ddod at ei gilydd y gaeaf hwn heb unrhyw gost. 

Age Cymru

Age Cymru yw’r elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.

Bore Coffi i Bobl 50+ Oed Llandochau

Mae 'Bore Coffi i Bobl 50+ Oed Llandochau' yn cynnig lluniaeth, cwisiau a gweithgareddau eraill am ddim o ddydd Mawrth 5 Medi 2023.

 

Lles drwy Wres

Lles drwy Wres yw ymgyrch genedlaethol Age Cymru i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r effeithiau negyddol y gall tywydd oer a thymheredd isel gael ar bobl hŷn. Ewch i’r wefan i weld beth allwch chi ei wneud i gadw’n ddiogel ac yn iach y gaeaf hwn:

 

Age Cymru - Beth yw Lles drwy Wres (ageuk.org.uk)

Sesiynau nofio am ddim ym Mro Morgannwg

Mae gan lawer o’n trigolion hawl i sesiynau nofio am ddim yng nghanolfannau Legacy Leisure ym Mro Morgannwg. Mae hwn yn slot amser penodol i chi ddefnyddio'r pwll nofio ynddo, nid gwers nofio.

 

  • Pobl dros 60 oed

    Mae Canolfannau Legacy Leisure yn cynnig sesiynau nofio am ddim i bobl dros 60 oed. Gallwch archebu'r sesiynau hyn ar-lein. Cofrestrwch ar gyfer y ‘Cynllun Actif yn y Dŵr’ wrth y dderbynfa i hawlio eich sesiynau am ddim. Gall pobl dros 60 oed nofio hefyd yn ystod unrhyw sesiwn arall am £2.70

    Canolfan Hamdden y Barri - Dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener 12.15 - 1pm

    Canolfan Hamdden Penarth - Dydd Mawrth a dydd Iau 12.30 - 1.30pm

    Canolfan Hamdden Llanilltud Fawr - Dydd Mawrth 2:15 - 3:15pm

  • Cyn-Filwyr

    Gall cyn-filwyr nofio am ddim unrhyw bryd yng nghanolfan Hamdden y Barri. Dylech ddangos prawf o’ch cerdyn adnabod y Weinyddiaeth Amddiffyn wrth y dderbynfa i hawlio eich nofio am ddim.