Cost of Living Support Icon

Help gyda bwyd 

Gwasanaethau a chymorth sy'n helpu gyda chostau bwyd. Gwybodaeth am dalebau bwyd a banciau bwyd.

 

 

Pod Bwyd Penarth

Gallwch fynd i’r Pod Bwyd ym Mhenarth i gael nwyddau tun a darfodus, nwyddau ymolchi a chynhyrchion hylendid ar sail talu’r hyn y gallwch ei fforddio.

Banc bwyd anifeiliaid anwes

Mae’r Banc bwyd anifeilliaid anwes yn elusen sy’n darparu bwyd ar gyfer anifeiliaid anwes mewn angen. Dewch o hyd i’r safle agosaf atoch chi ar eu gwefan.

Banc Bwyd y Fro

Mae nifer o fanciau bwyd ym Mro Morgannwg. Os ydych yn cael trafferth talu am fwyd, dysgwch sut i gael help gan fanc bwyd.

Bwyd y Fro

Mae Bwyd y Fro yn bartneriaeth o unigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau a busnesau ymroddedig sy'n gweithio gyda'i gilydd i greu system fwyd ffyniannus, iach a chynaliadwy yn y Fro.