Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Pan mae gennych blant yn yr ysgol, mae’r costau’n gallu cronni’n gyflym. Gallai fod gennych hawl i gymorth ariannol gyda hanfodion ysgol, i atal arian rhag bod yn rhwystr i addysg eich plentyn. Isod, gallwn eich helpu i fanteisio ar eich hawliau.
Yng Nghymru, nid yw hyd at 40% o rieni cymwys yn hawlio’r prydau ysgol am ddim y mae ganddynt hawl iddynt. Os ydych yn hawlio budd-daliadau penodol, gallech arbed arian trwy hawlio prydau ysgol am ddim i’ch plentyn.
Manteisiwch ar eich hawliau: Os yw eich plentyn eisoes yn cael prydau ysgol am ddim, gallai fod mwy o help ar gael drwy Hanfodion Ysgol. Mae Grant datblygu disgyblion ar gael i gynorthwyo teuluoedd ar incwm isel i brynu gwisg ysgol ac offer.
Gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael i helpu rhieni a gofalwyr gyda chost gofal plant.
Gwybodaeth ar yr help ariannol y gallai rhieni a gofalwyr fod yn gymwys i'w dderbyn.
Mae Baby Basics yn brosiect a arweinir gan wirfoddolwyr sy'n ceisio cefnogi mamau newydd a theuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd bodloni'r baich ariannol ac ymarferol o ofalu am fabi newydd.