Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Adnoddau i'ch helpu i wella eich iechyd a'ch lles yn ystod yr argyfwng costau byw.
Un Pwynt Mynediad ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd a Lles ym Mro Morgannwg.
Mae Symud Mwy, Bwyta'n Dda yn dod â phartneriaethau ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg at ei gilydd i gefnogi a galluogi trigolion i symud mwy ac i fwyta'n dda.
Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn helpu i wneud gweithgarwch corfforol yn ffordd newydd o fyw i bobl sy'n dioddef o broblemau iechyd ym Mro Morgannwg.
Dewch o hyd i wybodaeth a chyngor ar gyflyrau iechyd, symptomau, byw'n iach, meddyginiaethau a sut i gael help.
Mae Mind yn rhoi cyngor a chymorth cyfrinachol i unrhyw un sy'n profi problem iechyd meddwl. Rydyn ni’n ymgyrchu i wella gwasanaethau, cynyddu ymwybyddiaeth a hybu dealltwriaeth.
Mae'r Samariaid yn gweithio i wneud yn siŵr bod wastad rhywun yno i unrhyw un sydd angen rhywun.
Mae Dewis Cymru yn helpu pobl i gael mynediad at wasanaethau cefnogaeth leol yng Nghymru a dod o hyd i'r wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt i wella eu lles.
Chwaraeon Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.
Mae gan lawer o’n trigolion hawl i sesiynau nofio am ddim yng nghanolfannau Legacy Leisure ym Mro Morgannwg. Mae hwn yn slot amser penodol i chi ddefnyddio'r pwll nofio ynddo, nid gwers nofio.
Plant a phobl ifanc dan 16 oed
Mae Canolfannau Legacy Leisure yn cynnig sesiynau nofio am ddim i blant a phobl ifanc dan 16 oed. Gallwch archebu'r sesiynau hyn ar-lein:
Canolfan Hamdden y Barri - Dydd Sul 1 - 2.30pm
Canolfan Hamdden Penarth - Dydd Sul 12.30 - 2pm
Canolfan Hamdden Llanilltud Fawr - Dydd Sadwrn 1.45 - 3pm
Mae Canolfannau Legacy Leisure yn cynnig sesiynau nofio am ddim i bobl dros 60 oed. Gallwch archebu'r sesiynau hyn ar-lein. Cofrestrwch ar gyfer y ‘Cynllun Actif yn y Dŵr’ wrth y dderbynfa i hawlio eich sesiynau am ddim. Gall pobl dros 60 oed nofio hefyd yn ystod unrhyw sesiwn arall am £1.
Canolfan Hamdden y Barri - Dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener 12.15 - 1pm
Canolfan Hamdden Penarth - Dydd Mawrth a dydd Iau 12.30 - 1.30pm
Canolfan Hamdden Llanilltud Fawr - Dydd Mawrth 2 - 3pm
Cyn-Filwyr
Gall cyn-filwyr nofio am ddim unrhyw bryd yng nghanolfan Hamdden y Barri. Dylech ddangos prawf o’ch cerdyn adnabod y Weinyddiaeth Amddiffyn wrth y dderbynfa i hawlio eich nofio am ddim.