Cost of Living Support Icon

Tai ac ynni

Cyngor ar sicrhau bod eich cartref mor ynni-effeithlon â phosibl i'ch helpu i arbed arian ar filiau tanwydd.

 

Help gydag Ynni Cartref

Cyngor ar sicrhau bod eich cartref mor ynni-effeithlon â phosibl i'ch helpu i arbed arian ar filiau tanwydd.

Dŵr Cymru - Cymorth gyda biliau

Gallech arbed hyd at £230 ar eich bil dŵr blynyddol gyda Dŵr Cymru. Gwiriwch y meini prawf cymhwysedd ar-lein neu drwy ffonio 0800 052 0145 i siarad yn gyfrinachol ag aelod o’u tîm.

Cyngor ar Bopeth - Help os na allwch fforddio ychwanegu arian at eich mesurydd rhagdalu

Siaradwch ag ymgynghorydd ynni, cael credyd dros dro, gwirio a allech gael grant ynni neu daleb tanwydd.

Grantiau a budd-daliadau

Dewch o hyd i wybodaeth am grantiau a budd-daliadau sydd ar gael a dysgwch ba gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddynt. 

NYTH

Mae’r cynllun Nyth yn cynnig ystod o gyngor diduedd, am ddim ac, os ydych yn gymwys, pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni i’r cartref am ddim, megis boeler newydd, gwres canolog, inswleiddio, neu baneli solar. Gall hyn ostwng eich biliau ynni a bod o fudd i'ch iechyd a'ch lles.

Mannau Cynnes

Rhwydwaith o fannau cymunedol sy'n cynnig lle cynnes a braf i bobl ddod at ei gilydd heb unrhyw gost.

Pobl

Cymdeithas dai dielw yw Pobl sy'n cynnig atebion a chefnogaeth tai. Mae'n cynnig cefnogaeth arloesol o ansawdd uchel sy'n adeiladu ar gryfderau unigolion i'w galluogi i fyw'r bywyd y maen nhw eisiau, yn y cartref maen nhw'n ei ddewis.