Newyddion Cynllunio Diweddaraf
Sylwer nad yw Adran Gynllunio'r Cyngor bellach wedi'u lleoli yn Swyddfeydd y Doc ac maent bellach wedi'u lleoli yn Swyddfeydd Dinesig y Cyngor, Y Barri, CF63 4RU
Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 a Rheoliadau Ategol
Mae Deddf yr Amglychedd Hanesyddol (Cymru) 2023 a rheoliadau ategol yn dod i rym yn llawn ar 4 Tachwedd 2024.
Mae'r fframwaith cyfreithiol presennol ar gyfer rheoli a gwarchod amgylchedd hanesyddol Cymru — yn bennaf Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 a Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 - yn cael ei disodli a bydd Deddf 2023 a'i rheoliadau cysylltiedig yn darparu cyfraith gwbl ddwyieithog i'r wlad sydd wedi'i strwythuro'n rhesymegol, yn gyson ac yn cael ei mynegi, cyhyd ag y bo modd, mewn iaith glir, bob dydd. Er bod y ddeddfwriaeth newydd yn ei gwneud yn haws i bawb ddod o hyd i, deall a chymhwyso'r gyfraith, nid yw'n gwneud unrhyw newidiadau i'r ffordd y caiff amgylchedd hanesyddol Cymru ei reoli a'i ddiogelu ar hyn o bryd.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Cadw yn Deddf yr Amglychedd Hanesyddol (Cymru) 2023 | Cadw.
Gofynion Polisi Cynllunio Newydd - Seilwaith Gwyrdd
Ar 11 Hydref 2023 cafodd Awdurdodau Cynllunio Lleol ledled Cymru wybod gan Lywodraeth Cymru am newidiadau sy'n cael eu cyflwyno i Bennod 6 o Bolisi Cynllunio Cymru.