Cost of Living Support Icon

Coed a \Pherthi

Dysgwch a yw coeden neu berth wedi’i diogelu Gwnewch gais am waith  i goed a pherthi a ddiogelir neu wneud cwyn am berth uchel. 

 

Coed a Ddiogelir

CaBeech Treeiff coed ym Mro Morgannwg eu diogelu mewn nifer o ffyrdd, naill ai trwy ddynodi Gorchymyn Diogelu Coed (TPO), trwy fod o fewn un o’r 39 o Ardaloedd Cadwraeth (TCA) neu trwy fod yn rhan o goetir neu berth a ddiogelir. Gallwch gael gwybod a yw coeden wedi’i diogelu gan GDC neu o fewn Ardal gadwraeth ar ein Map Rhyngweithiol. Gellir edrych ar gopi o’r Gorchymyn ei hun ar wefan y cyngor, ar y Cofrestr Cynllunio

 

Os bydd y coed(en) wedi’i diogelu, mae angen cydsyniad ffurfiol gan y Cyngor cyn dechrau unrhyw waith. Mae hyn yn gymwys boed i’r gwaith arfaethedig yn cynnwys cynnal a chadw/ torri coed neu os bydd angen gwaith ar y coed o ganlyniad i'r datblygiad arfaethedig.

 

Gwaith Coed 

Gallwch wneud cais am waith ar goed ar y Porth Cynllunio neu trwy gyflwyno’r ffurflen ganlynol:

 

 

 

Perthi a Ddiogelir 

Mhedgerow-field-springae'r Rheoliadau Perthi 1997 yn diogelu perthi pwysig gan reoli eu torri i lawr trwy system o hysbysu. O dan y Rheoliadau, mae’n anghyfreithlon torri i lawr neu ddinistrio’r rhan fwyaf o berthi cefn gwlad (ac eithrio’r rhai sy’n ffurfio ffiniau gerddi) heb ganiatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio lleol. Pan fydd cynigion yn cynnwys torri perth i lawr, mae’n rhaid cael caniatâd gan y Cyngor yn gyntaf, gan ddefnyddio'r ffurflen gais am dorri perth i lawr uchod:

 

 

Os ydych chi’n ansicr ynglŷn ag yw’r Rheoliadau yn effeithio ar eich gwaith arfaethedig fe’ch cynghorir i gyflwyno Hysbysiad Torri Perth i Lawr i’r Cyngor i gael penderfyniad. 

Canllawiau Cynllunio Atodol

Trees, Woodlands, Hedgerows and Development SPG 2018

 

I gael rhagor o wybodaeth, gweler CCA Coed, Coetiroedd, Perthi a Datblygu cymeradwy y Cyngor.

 

Cwyn am Berthi Uchel

Os ydych yn pryderu am berth uchel yn effeithio ar eich eiddo mae gennych hawliau o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003. 

 

Mae’r ddeddfwriaeth ond yn perthyn i berth uchel, sy’n rhwystr i olau a ffurfir yn gyfan gwbl neu yn bennaf gan linell o goed neu brysglwyni bythwyrdd neu lled-fythwyrdd i uchder o fwy na 2 fetr uwchben lefel y llawr.

 

Mae’r Ddeddf yn ei wneud yn glir, pan fydd uchder perth y drws nesaf yn bryder, y ffordd orau o ymdrin â'r mater yw i'w drafod yn gyfeillgar a chytuno ar ateb. Am y rheswm hwn, mae’r gyfraith yn gofyn i bobl gymryd camau cyfrifol i geisio setlo eu hanghydfod gyda pherthi cyn cwyno i’r Cyngor lleol. 

 

Os ydych chi wedi gwneud hyn ac yn dymuno gwneud cwyn bellach, llenwch y Ffurflen Gwyno, mae Nodiadau Cyfarwyddyd ar gael.  Os digwydd bod cwyn ffurfiol yn cael ei chyflwyno a’i derbyn, bydd ffi o £320 yn daladwy.