Cost of Living Support Icon

Gorfodi

Pan fo gwaith yn cael ei wneud heb y caniatâd sydd ei angen mae gan y Cyngor bŵer i weithredu. 

 

Mae tor-amodau rheolaeth gynllunio y mae’r Cyngor yn delio â hwy yn cynnwys: 

  • Codi adeiladau, estyniadau neu addasiadau i adeiladau 
  • Newid defnydd materol tir neu adeiladau
  • Torri amod a osodwyd ar ganiatâd cynllunio
  • Methu â chydymffurfio â chynlluniau a gymeradwywyd fel rhan o’r caniatâd cynllunio
  • Hysbysebion
  • Perth neu Goeden a Ddiogelir neu weithio arnynt

 

Os hoffech weld achosion gorfodi presennol neu hanesyddol ym Mro Morgannwg gallwch wneud hynny drwy’r  

 

Cofrestr Gorfodi Cynllunio

    

Rhoi gwybod bod Rheoliad Cynllunio wedi’i dorri

Os ydych yn amau bod rheoliad cynllunio wedi ei dorri, cwblhewch y ffurflen gwyno ar-lein. 

 

Ni fydd cwynion dienw’n cael eu hystyried fel arfer. Er y bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i gadw eich cwyn yn gyfrinachol, mae’n bosibl y bydd angen ei datgelu os cyflwynir hysbysiad gorfodi a bod y mater yn mynd i apêl. 

  

Sut rydyn ni’n ymdrin â Chwynion Gorfodi 

 

Gorfodi Cynllunio  ~ Canllaw i'r Cyhoedd 

  • Bydd y Cyngor yn ceisio cydnabod cwynion a wnaed yn ysgrifenedig, drwy’r ffurflen ar-lein neu drwy e-bost o fewn 5 niwrnod gwaith.

  • Ymchwilir i gwynion ysgrifenedig yn ôl y drefn flaenoriaeth a ddynodir i’r gŵyn: Blaenoriaeth 1, o fewn 1-5 diwrnod gwaith, Blaenoriaeth 2 o fewn 5 i 15 diwrnod gwaith, a Blaenoriaeth 3 o fewn 28 diwrnod gwaith.

  • Asesu difrifoldeb y tor-amod o fewn 28 diwrnod.

  • Rhoi gwybod i achwynwyr am ddatrysiad achos o fewn 28 diwrnod o’r datrysiad.

  

 

I gael rhagor o wybodaeth am bwerau gorfodi cynllunio gweler Llawlyfr Rheoli Datblygiadau Llywodraeth Cymru