Cost of Living Support Icon

Cyfraniadau Datblygwr - Adran 106

Mae adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn galluogi awdurdod cynllunio lleol i fynd i gytundeb cyfreithiol rhwymol er mwyn sicrhau rhwymedigaethau cynllunio gyda pherchennog tir yn rhan o roi caniatâd cynllunio.

 

Mae rhwymedigaethau cynllunio yn fecanwaith pwysig er mwyn helpu i liniaru effeithiau negyddol datblygiad. Bydd y Cyngor yn defnyddio rhwymedigaethau cynllunio er mwyn darparu gofynion seilwaith lleol sy'n ofynnol o ganlyniad i'r datblygiad, megis darparu mannau agored a thirweddu lleol sy'n benodol i’r safle, amddiffyn cynefinoedd, trefniadau mynediad gynnwys cyfleusterau trafnidiaeth cynaliadwy, cyfleusterau addysg a chymunedol a thai fforddiadwy.

 

Gallai rhwymedigaethau cynllunio gynnwys y canlynol:

  • Cyfraniadau mewn nwyddau – Mae’r datblygwr yn ymgymryd â gwaith gofynnol o fewn safle’r datblygiad megis darparu man chwarae i blant a thai fforddiadwy .

  • Cyfraniadau Ariannol Ar y Safle/i Ffwrdd o’r Safle – Mae’r datblygwr yn cyfrannu'n ariannol tuag at ddarparu mesurau a fyddai'n lliniaru effeithiau niweidiol datblygiadau megis trafnidiaeth gyhoeddus well, mynediad i gerddwyr a beicwyr, cyfleusterau addysgol a chyfleusterau cymunedol newydd a gwell.

  • Cyfraniadau i Gynnal a Chadw – Mae’r datblygwr yn cyfrannu’n ariannol tuag at gynhaliaeth ffisegol cyfleusterau maent wedi’u hariannu neu eu darparu megis mannau agored.

  

Diweddariadau Adran 106 Blynyddol

Ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, caiff adroddiad blynyddol ei gyflwyno i’r Cabinet ynghylch cynnydd materion Adran 106 (Rhwymedigaeth Gynllunio) ym Mro Morgannwg. Mae’r adroddiad yn cynnig y wybodaeth ganlynol:

 

  • Rhestr o’r holl gytundebau Adran 106 yr aethpwyd iddynt yn ystod y flwyddyn ariannol; a
  • Chrynodeb o incwm a gwariant ar bob cytundeb Adran 106. 
S106
Adroddiad Cabinet BlynyddolCytundebau cyfreithiol yr aethpwyd iddynt yn ystod y Flwyddyn AriannolCrynodeb o incwm a gwariant ar bob cytundeb Adran 106 yn ystod y Flwyddyn AriannolFfotograffau o brosiectau
Adroddiad 2022/23 Cytundebau wedi’u llofnodi 2022/23 Cyfrifon Adran 106: 2022/23 Ffotograffau 2022/23
Adroddiad 2021/22 Cytundebau wedi'u llofnodi 2021/22 Cyfrifon Adran 106: 2021/22 Ffotograffau 2021/22
Adroddiad 2020/21 Cytundebau wedi'u llofnodi 2020/21 Cyfrifon Adran 106: 2020/21 N/A
Adroddiad 2019/20 Cytundebau wedi'u llofnodi 2019/20 Cyfrifon Adran 106: 2019/20 N/A
Adroddiad 2018/19 Cytundebau wedi'u llofnodi 2018/19 Cyfrifon Adran 106: 2018/19 N/A
Adroddiad 2017/18 Cytundebau wedi'u llofnodi 2017/18 Cyfrifon Adran 106: 2017/18 N/A
Adroddiad 2016/17 Cytundebau wedi'u llofnodi 2016/17 Cyfrifon Adran 106: 2016/17 N/A
Adroddiad 2015/16 Cytundebau wedi'u llofnodi 2015/16 Cyfrifon Adran 106: 2015/16 N/A
Adroddiad 2014/15 Cytundebau wedi'u llofnodi 2014/15 Cyfrifon Adran 106: 2014/15 N/A
Adroddiad 2013/14 Cytundebau wedi'u llofnodi 2013/14 Cyfrifon Adran 106 2013/14 N/A
Adroddiad 2012/13 Cytundebau wedi'u llofnodi 2012/13 Cyfrifon Adran 106 2012/13 N/A
Adroddiad 2011/12 Cytundebau wedi'u llofnod 2011/12 Cyfrifon Adran 106 2011/12 N/A

Cofrestr o Gytundebau Adran 106

Mae’r Cyngor wedi cadw cofrestr gyfredol o gytundebau 106 wedi’u llofnodi er 1990

 

Canllaw Cynllunio Atodol

Mae gan Fro Morgannwg nifer o Ganllawiau Cynllunio Atodol (CCA) mabwysiedig i ategu’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Planning Obligations SPG 2018

 

Mae’r CCA Rhwymedigaethau Cynllunio hwn yn egluro ble, beth, pryd a sut caiff rhwymedigaethau cynllunio eu ceisio, er mwyn helpu’r Cyngor i greu cymunedau cynaliadwy sy’n darparu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Affordable housing SPG CY

 

Mae’r CCA Tai Fforddiadwy yn nodi dull y Cyngor o adeiladu tai fforddiadwy trwy’r system gynllunio. Mae’n trafod gofynion y Cyngor a mecanweithiau ar gyfer sicrhau ac adeiladu tai fforddiadwy ym Mro Morgannwg.

   

Gweithredu Adran 106

Mae Protocol Adran 106 ar gyfer Gweithredu yn weithdrefn ymgynghori a gynhelir gydag Aelodau Cabinet, Gwasanaethau, Aelodau Ward Lleol ac ymgynghoreion priodol eraill wedi derbyn cyfraniad ariannol Adran 106. Diben y Protocol yw sicrhau bod cyfraniadau ariannol wedi’u derbyn gan y Cyngor yn cael eu clustnodi mewn modd democrataidd, gan ystyried y fframwaith cyfreithiol, yr effaith a’r anghenion sy'n codi yn sgil datblygiad newydd a gwerth gorau o ran arian.

Gronfa Cymhorthdal Cymunedau Cryf

Mae’r Gronfa Cymhorthdal Cymunedau Cryf yn cynnig platfform i Grwpiau Cymunedol, y Sector Gwirfoddol a Chynghorau Tref a Gwlad wneud cais am arian grant er mwyn cael help gyda phrojectau ledled Bro Morgannwg. Mae hefyd yn cynnig mecanwaith arall i wneud cais am gyfraniadau Adran 106. Os oes gennych broject cymunedol yr ydych yn credu y gallai fod yn gymwys i gael cyllid Adran 106, cysylltwch â Lucy Butler (Uwch Gynllunydd, Cyfraniadau Datblygu) ar 01446 704665, neu e-bostiwch planning@valeofglamorgan.gov.uk

Ardoll Seilwaith Cymunedol

Wrth ystyried yr ansicrwydd ynglŷn â dyfodol Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010 (fel y’i diwygiwyd) a’r pwerau datganoledig y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hetifeddu i addasu deddfwriaeth eilaidd bresennol ym mis Ebrill 2018, cytunodd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg (ar 24 Ebrill 2017, Cofnod C3546), nes bod cyfarwyddyd clir gan Lywodraeth Cymru, y caiff cynnydd ar ASC ym Mro Morgannwg ei roi o'r neilltu.  Yn y cyfamser, bydd y Cyngor yn parhau i ddefnyddio rhwymedigaethau cynllunio a sicrhawyd trwy gytundebau adran 106 i sicrhau seilwaith angenrheidiol sy'n gysylltiedig â datblygiadau newydd fel y rhestrir yn y CCA hwn.

I gael mwy o wybodaeth neu i drafod materion Adran 106, cysylltwch â Swyddog Adran 106 y Cyngor.