Cost of Living Support Icon

Gwasanaeth Argyfwng y Tu Allan i Oriau

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnig gwasanaeth argyfwng y tu allan i oriau swyddfa arferol. Dim ond gydag argyfyngau nad ydynt yn gallu disgwyl tan y diwrnod gwaith nesaf y mae’r gwasanaeth hwn yn delio â hwy.

 

Ffoniwch ni yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • Os oes angen amddiffyn plentyn neu berson ifanc rhag niwed ar frys
  • Os oes angen help, cyngor neu gymorth brys ar riant, gofalwr maeth neu blentyn
  • Os oes angen brys ar ofalwr neu oedolyn agored i niwed (problemau iechyd meddwl, anableddau dysgu neu gorfforol neu bobl hŷn)
  • Os ydych eisiau rhoi gwybod am eich pryderon am oedolyn agored i niwed sy’n cael ei gam-drin ac y mae angen iddo gael ei amddiffyn

 

  • 029 20 788570