Cost of Living Support Icon

Canmol a Chwyno am y Gwasanaethau Cymdeithasol

Os ydych chi’n anhapus gyda’r gwasanaethau cymdeithasol yr ydych yn eu cael, mae gennych hawl i gwyno.

‘Cofiwch y gall y Cyngor gymryd hirach i ymateb i unrhyw ohebiaeth neu gwynion oherwydd ei ymateb i Covid-19.’ Diolch am eich dealltwriaeth’ 

 

Rydym ni’n anelu at gyflawni safonau uchel ond weithiau mae pethau’n mynd o’i le. Dim ond os ydych chi’n rhoi gwybod i ni eich bod yn anhapus y gallwn ni eich helpu. Peidiwch â bod ofn cwyno. Rydym yn croesawu’ch sylwadau, y positif a’r negatif, oherwydd mae’n bosib y gallan nhw ein helpu i wella’r gwasanaethau i bawb.

 

Mae’r broses gwyno yn cael ei rhannu’n dri cham penodol.

Gallwch wneud eich cwyn cychwynnol yn ystod Cam 1 neu Gam 2.

 

Cam 1 – datrys y broblem yn lleol

Y ffordd orau i ddatrys problemau yw drwy siarad gyda’r staff sy’n gweithio gyda chi. Cysylltwch â’r person sy’n gyfrifol am eich gwasanaeth lleol neu cysylltwch â’ch swyddog cwynion a fydd yn gallu siarad â’r person hwnnw ar eich rhan. Gallwch wneud hyn wyneb yn wyneb, ar y ffôn, yn ysgrifenedig neu drwy anfon e-bost. Ni ddylai’r broses gymryd mwy na phythefnos.

 

Cam 2 – ystyriaeth ffurfiol

Pan fyddwch yn cysylltu â’ch swyddog cwynion bydd yn gwneud trefniadau i rywun nad ydyn nhw’n gysylltiedig â’ch gwasanaeth i ymchwilio i’r gwyn. Mae gennych hawl i ddisgwyl ymateb oddi wrth y Cyngor cyn pen pum wythnos. Gallwch gysylltu â’r swyddog cwynion i wneud eich cwyn cychwynnol neu ar ôl cael gair gyda’r staff sy’n gweithio gyda chi.

 

Os ydych yn dal yn anfodlon, gallwch ofyn am adolygiad o’r ffordd yr ydym wedi bod yn delio â’ch cwyn gan banel annibynnol (Cam 3 ydi hwn).

 

 

Swyddog Cwynion

Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymunedol

2il Lawr

Swyddfa’r Doc

Y Barri

CF63 4RT

 

 

 

Mae gennych chi hawl i gwyno os nad ydych chi’n fodlon ag ansawdd y gwasanaethau a dderbyniwch a’n dyletswydd ni yw edrych ar eich cwyn a cheisio ei ddatrys.

 

Cael help i godi eich pryder

Os oes angen help arnoch i godi pryder, gall Llais – eich llais ym maes iechyd a gofal cymdeithasol eich helpu i wneud hyn.  Mae Llais yn gorff annibynnol a gall ei wasanaeth Eiriolaeth am ddim roi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i aelodau'r cyhoedd a allai ddymuno codi pryder.

 

Gall Llais eich cefnogi chi i godi pryder a rhoi cyngor ar y camau mwyaf priodol.  Gallwch gysylltu â'ch swyddfa Llais leol gyda’r cyfeiriad canlynol:

 

Gwasanaeth Eiriolaeth

Llais – Caerdydd a Bro Morgannwg

Canolfan Fusnes Pro Copy (cefn)

Parc Ty Glas

Llanisien

Caerdydd

CF14 9DE