Cost of Living Support Icon

Dechrau Gyrfa Gofal Plant

Gwybodaeth i bobl sydd am ddechrau gyrfa gofal plant neu sefydlu darpariaeth gofal plant newydd ym Mro Morgannwg.

Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant Rheoledig i blant hyd at 12 oed

Mae gofal plant rheoledig yn cynnwys ystod eang o wahanol fathau o ddarpariaeth, sy'n amodol ar gyfres o safonau gofynnol cenedlaethol.

  • Gwarchod Plant 
  • Gofal Diwrnod Llawn
  • Gofal Dydd Achlysurol
  • Gofal Dydd Fesul Sesiwn
  • Créche
  • Darpariaeth Chwarae Mynediad Agored 

 

Dod yn… 

  • Nani, Au Pair a Gofalwr Plant yn y Cartref Cymeradwy

    Cynhelir y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol Gofal Plant yn y Cartref gan Arolygiaeth Gofal Cymru, ac mae’n golygu y gall y rhai sy’n gofalu am blant yn y cartref gofrestru i gael eu cymeradwyo.

    bigstock-Illustration-of-Kids-Acting-Ou-31732823

     

    Mae’r cynllun yn wirfoddol ac nid yw ond yn berthnasol i ofal plant a ddarperir yng Nghymru.

     

    Does dim angen i nanis gael eu cymeradwyo i ofalu am blentyn yng nghartref y rhiant. 

     

    Buddion y cynllun yw:

    • Gallwch ddangos eich bod chi’n bodloni’r gofynion sylfaenol ar gyfer gofal plant

       

    • Byddwch yn rhan o gynllun a gydnabyddir drwy Gymru

    • Bydd gennych fwy o gyfle o gael eich cyflogi gan rieni sy’n gymwys i hawlio cymorth â chostau gofal plant i ddefnyddio Gofalwr Plant Cartref Cymeradwy

    I fod yn gymwys i ymgeisio am y cynllun, mae’n rhaid i chi:  

     

    • Fod yn 18 oed neu hŷn

    • Meddu ar Dystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig gyfredol

    • Bod â gwiriad GDG uwch

    • Bod â chymhwyster ar Restr Cymwysterau Gofynnol Gofal Cymdeithasol Cymru i weithio yn y Sector Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar

     

    Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) sy'n rhedeg Cynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021

     

     

     

     

     

     

    Ymgeisio am Gynllun Cymeradwyo Gofal Plant (Gwefan AGC)

     

  • Gweithiwr Chwarae

    Gall gweithwyr chwarae weithio ar nifer o lefelau gwahanol a gallent ddilyn llwybrau gwahanol - popeth o waith dros dro rhan-amser i swyddi parhaol llawn-amser yn datblygu neu'n rheoli lleoliadau chwarae. 

     

    Mae gweithwyr chwarae yn gweithio i gefnogi plant drwy:

     

    Cardboard Boxes
    • Greu cyfleoedd iddyn nhw greu gofodau newydd a gwahanol ar gyfer chwarae; lleoedd mawr a bach, y tu mewn neu’r tu allan, sy’n ddeniadol ac yn cynnig rhyddid i chwarae
    • Cynnig neu wneud pob math o bethau pob dydd y gallai plant eu defnyddio wrth chwarae

    • Gwylio a dysgu gan blant am chwarae a sut i’w gefnogi

    •  

      Bod yn bresennol os oes angen

     

    I gael gwybodaeth ar gyfleoedd newydd a chenedlaethol mewn Gwaith Chwarae:

     

    Tîm Datblygu Chwarae’r Fro

    Dechreuwch eich taith gwaith chwarae

    Chwarae Cymru

 

 Sefydlu… 

  • Meithrinfa Ddydd / Crèche

     

    Gwybodaeth ar sut i sefydlu Meithrinfa Ddydd / Crèche:  Cymdeithas Meithrinfeydd Dydd Cenedlaethol (NDNA) 

  • Grŵp Chwarae / Cylch Meithrin

    Gofal plant i blant o 2 oed ymlaen ar eiddo annomestig sydd am gyfnod llai na 4 awr mewn un diwrnod.

     

    Os yw dwy sesiwn yn cael eu cynnig mewn un diwrnod, ni chaiff plant fynd i fwy na 5 sesiwn yr wythnos. Mae’n rhaid cael egwyl rhwng sesiynau heb blant yng ngofal y darparwr.

     

     

    Gwybodaeth ar Sefydlu Gofal Dydd fesul Sesiwn:

     

    Blynyddoedd Cynnar Cymru 

    Mudiad Meithrin

  • Darpariaeth Allan o’r Ysgol

    Mae Gofal Plant Allan o’r Ysgol yn cyfeirio at ofal plant y tu allan i ddiwrnod ysgol llawn amser y plentyn gan gynnwys gofal a ddarperir cyn yr ysgol, ar ôl yr ysgol ac yn ystod gwyliau'r ysgol.

     

    Nid yw’n cynnwys gofal cofleidiol a'r cynllun brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd Llywodraeth Cymru.

     

    I gael gwybodaeth ar sefydlu Gofal Plant Allan o’r Ysgol:

     

  • Grŵp rhieni a phlant bach 

    Mae grwpiau rhieni a phlant bach yn sesiynau anffurfiol lle gall rhieni, gofalwyr, gwarchodwyr plant, a'u plant fynd i gael hwyl a chwrdd â phobl newydd. Mae rhieni a gofalwyr yn aros gyda'u plant ac yn gyfrifol amdanynt drwy gydol y sesiwn. Mae rhieni neu ofalwyr yn aml yn sefydlu'r grwpiau ac fel arfer mae un i ddau grŵp yr wythnos, sy'n para am awr neu fwy.

     

    I gael gwybodaeth am sefydlu grŵp rhieni a phlant bach, gweler ein: 

    Canllaw arfer da: Sefydlu grŵp rhieni a phlant bach ym Mro Morgannwg  

     

    Efallai yr hoffech gael hyfforddiant, gweler dyddiadau nesaf y cyrsiau sydd ar gael ar gyfer: 

     

    Diogelwch Bwyd

    Iechyd a Diogelwch

     

     

     

     

     

 

 

 

Cysylltwch â ni:

  • 01446 704704
  • fis@valeofglamorgan.gov.uk
  • Vale Family Information Service
  • @VALEFIS