Cost of Living Support Icon

Cymorth ariannol i ddarparwyr gofal plant: grantiau lleol a mentrau Llywodraeth Cymru

Gweler y wybodaeth sy'n ymwneud â grantiau sydd ar gael yn ystod 2024-2025 i gefnogi'r sector gofal plant ym Mro Morgannwg.

 

 

Y Cynllun Gofal Plant Di-dreth

Mae’r cynllun gofal plant di-dreth yn gynllun newydd gan y llywodraeth i helpu rhieni sy'n gweithio gyda chost gofal plant.  

 

Gall rhieni sy’n gymwys gyda phlant dan 12 oed gael hyd at £2,000 y plentyn, y flwyddyn, tuag at eu costau gofal plant (neu hyd at £4,000 ar gyfer plant anabl dan 17 oed).  

 

Mae Dewisiadau Gofal Plant wedi rhoi'r holl wybodaeth at ei gilydd y mae ei hangen ar ddarparwyr gofal plant, gan gynnwys y Pecyn Offer Cyfathrebu a Chlip Fideo gan ddarparwyr sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer y Cynllun Gofal Plant Di-dreth:

 

Dewisiadau gofal plant - beth sydd angen i ddarparwyr gofal plant ei wybod? (saesned yn unig)

 

Darllenwch sut i gofrestru i gael Gofal Plant Di-dreth ac agorwch gyfrif darparwr gofal plant i gael taliadau gan rieni sy’n defnyddio’r cynllun:

 

Gov.Uk - Cofrestrwch ar gyfer Gofal Plant Di-dreth os ydych yn ddarparwr gofal plant (Saesneg yn unig)

 

bigstock-Stickman-Illustration-of-a-Div-154541381

Cynnig Gofal Plant yng Nghymru

 

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru’n darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i rieni cymwys plant 3 a 4 oed yng Nghymru, ar gyfer hyd at 48 wythnos o'r flwyddyn. 

 

Fel darparwr, bydd angen i chi gofrestru i fod yn rhan o'r cynllun. Ewch i'n tudalen Cynnig Gofal Plant am fwy o wybodaeth:

 

Y Cynnig Gofal Plant ym Mro Morgannwg

Cynnig Gofal Plant i Gymru ar gyfer Darparwyr

 

Cyllid Ychwanegol

Os ydych chi'n ystyried dod yn warchodwr plant ym Mro Morgannwg, efallai y bydd gennych hawl i gael arian i gefnogi'ch hyfforddiant a sefydlu costau, os ydych chi'n bodloni meini prawf penodol.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Thîm Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar y Fro:   


 

Grant Gofal Plant a Chwarae 

Mae tîm Blynyddoedd Cynnar Bro Morgannwg wedi sicrhau cyllid i gefnogi cynaliadwyedd lleoliadau gofal plant ac i sefydlu lleoedd gofal plant newydd.

 

Gwneud cais am arian:

Ar gyfer cynaliadwyedd eich lleoliad, bydd gofyn i chi ddangos colled ariannol sylweddol barhaus / colled ariannol sylweddol.

 

Ar gyfer creu lleoedd gofal plant newydd, bydd gofyn i chi ddangos yr angen yn yr ardal - oes gennych restrau aros, oes galw gan rieni, canfyddiadau Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant ac ati

 

Mae'r panel yn bwriadu cyfarfod ar ddydd Gwener cyntaf pob mis a bydd yn eich hysbysu o'u penderfyniad o fewn pythefnos i hyn. 

 

 

Darllenwch y wybodaeth o fewn y cais yn ofalus cyn gwneud cais a dychwelyd.    Bydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu gwrthod.

 

*PWYSIG - Rydym yn gofyn i unrhyw leoliad sy’n gwneud cais am grant ddiweddaru eu manylion a’u cyhoeddi ar DEWIS Cymru, gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd helpu gyda hyn 01446 704704.

 

  • 01446 709269


  • Vale Family Information Service   
  • @ValeFIS