Cost of Living Support Icon

Dod yn Warchodwr Plant

Gwybodaeth i’r sawl sydd eisiau dechrau gyrfa'n gwarchod plant ym Mro Morgannwg

Mae gwarchod plant yn cyfeirio at ofalu am un neu fwy o blant dan 12 oed ar safle domestig, fel eu cartref er enghraifft, am swm o arian.

 

Mae gwarchodwyr plant yn gallu cynnig: Gofal diwrnod llawn a rhan-amser, gan gynnwys darpariaeth cyn ac ar ôl ysgol a chan gynnwys hefyd oriau anarferol e.e. gyda'r nos, ar y penwythnos, dros nos, gofal cofleidiol, darpariaeth yn ystod gwyliau’r ysgol, a lleoedd gofal plant am ddim.

 

Childcare logo

Cysylltwch â Ni:

Gallwn ni roi gwybodaeth i chi am warchodwyr plant yn eich ardal a nifer yr ymholiadau rydyn ni wedi'u cael ynghylch gofal plant yn eich ardal: 

  • 01446 709269
  • valechildcare@valeofglamorgan.gov.uk

 

I ddod yn warchodwr plant, rhaid i chi... 
  • Gwblhau Sesiwn Friffio
    • Gwblhau sesiwn friffio 

    Gallwch gadw lle ar Sesiwn Friffio Ar-lein PACEY

     

    E-bostiwch PACEY Cymru: paceycymru@pacey.org.uk 

    Os na allwch ddod i'r sesiwn friffio rhad ac am ddim nesaf, gallwch gwblhau Sesiwn Briffio Ar-lein trwy PACEY mae'r rhain am ddim ar hyn o bryd:


    Sesiwn Friffio Ar-lein PACEY 

    Pecyn Cymorth PACEY

    Taflen PACEY Nani (PDF)

  • Cwblhau Cwrs Cyn Cofrestru: 

    Cwblhau unedau 326 Cyflwyno i ofal plant yn y cartref (IHC a 327 Paratoi ar gyfer Arfer Gofal Plant (PCP).

    Mae’r rhain yn werth 10 credyd tuag at Ddiploma Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygu Plant Lefel 3.

     

    Bydd cymorth ariannol yn cael ei gynnig i'r rhai sy'n ystyried dod yn warchodwr plant. Bydd angen i unrhyw un sydd â diddordeb fodloni'r meini prawf a chadw at Delerau ac Amodau'r cyllid sydd ar gael. Anfonwch e-bost at eydcp@valeofglamorgan.gov.uk am ragor o wybodaeth.

     

     

     

    Hefyd bydd angen i chi gwblhau cwrs Cymorth Cyntaf Paediatreg 12 awr. 

     

     I gael eich cofrestru o dan y Cynllun Cymeradwyo Cartref Gwirfoddol (fel nani yng nghartref y plentyn ei hun) bydd angen i chi basio'r Uned gyntaf 326 Cyflwyniad i ofal plant yn y cartref (IHC). Efallai yr hoffech chi ystyried hyn fel gyrfa, i gael mwy o wybodaeth:
     
    Cymeradwyo Cynllun Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021

  • Cysylltwch ag Adran Gynllunio Bro Morgannwg: 

    Bydd angen i chi gysylltu ag adran gynllunio Bro Morgannwg i drafod eich cynlluniau i redeg busnes gofal plant o’ch cartref.

    Bydd angen i chi gydymffurfio â’u hargymhellion. Cysylltwch â ni ar 01446 704681 neu e-bostiwch: planning&transport@valeofglamorgan.gov.uk.

    Gellir gael mwy o wybodaeth yma:

     

    Cynllunio a gofal plant yng Nghymru 

  • Cwblhewch eich cais a’i gyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC): 

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich unedau cyn cofrestru a Chymorth Cyntaf Pediatrig 12 awr, bydd angen i chi greu cyfrif ar-lein gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a chwblhau cais ar-lein.  Bydd hyn yn cynnwys geirda iechyd gan eich meddyg, manylion eich cymwysterau a'ch tystysgrifau a Datgeliad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i chi a phob aelod o’r cartref sy’n 16 oed a throsodd. 

     

    Bydd angen i bob peiriant nwy gan gynnwys boeleri llosg nwy gael gwiriad Diogelwch Nwy ynghyd â thystysgrif diogelwch.

    Cofrestrwch i ddod yn warchodwr plant 

  • Cofrestru gyda’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:

     

    Os ydych yn bwriadu darparu bwyd gan gynnwys byrbrydau bydd angen i chi gofrestru gyda’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir / Iechyd yr Amgylchedd.

    Gweler:

     

    Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir 

  • Cofrestru’n Hunangyflogedig gyda CThEM: 
    Fel gwarchodwr plant bydd angen i chi gofrestru fel hunangyflogedig gyda Chyllid a Thollau EM (HMRC) a chadw cofnodion / derbynebau.

    Cyllid a Thollau EM - Cyngor Trethi ar gyfer Gwarchodwyr Plant 
  • Cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):

     

    Cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):

    Os ydych yn bwriadu storio data penodol yn electronig a/neu dynnu lluniau digidol ar ffôn symudol, llechen ac ati, bydd angen i chi gofrestru gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth.

    Cofrestrwch ond ar ôl i chi gael eich cofrestru’n ofalwr plant gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

    Am fwy o wybodaeth gweler:

     

     Ffi Diogelu Data

  • Bodloni’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant Rheoledig i blant hyd at 12 oed 

    Rhaid i warchodwyr plant fod wedi'u cofrestru gyda CIW a rhaid iddynt gyflawni'r Isafswm Safonau Cenedlaethol. Y rhain yw'r Isafswm Safonau ar gyfer cofrestru ac er mwyn darparu gofal plant o safon, y disgwyliad cyffredinol yw eich bod yn gweithio tuag at sicrhau bod y safonau sylfaenol hyn yn cael eu rhagori.

     

    Safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer gofal plant rheoledig 

  •  Gwneud cais am Wiriad Manylach y GDG

    Bydd angen i bob aelod o'ch cartref gael gwiriad Manylach y GDG. Gellir darparu'r rhain gan Gyngor Bro Morgannwg ac mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen we ar gyfer Darparwyr Gofal Plant Presennol

Ar ôl i chi gofrestru i fod yn Warchodwr Plant...

Cysylltwch â ni ar ôl i chi gofrestru fel gwarchodwr plant er mwyn i ni allu hyrwyddo’ch gwasanaeth i deuluoedd ledled y Fro a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hyfforddiant a chyfleoedd ariannu.

 

Hyrwyddwch eich gwasanaeth ar gyfeiriadur Gwybodaeth Gofal Plant Cymru.