Cost of Living Support Icon

Canol Trefi ac Ardaloedd Siopa

Mae gan Fro Morgannwg ystod amrywiol o ganolfannau siopa, bob un â'i chymeriad ei hun ac yn cynnig amrywiaeth eang o ddewisiadau siopa, cyfleoedd cyflogaeth a lleoliadau cymdeithasol.

Canol tref yw 'Curiad calon y Gymuned', a rhaid iddyn nhw aros yn lleoedd byw a hyfyw i gyfarfod, gweithio a siopa!   

Town Centres logo Welsh

 

Gan weithio gyda phartneriaid, mae'r Cyngor yn helpu i greu'r amgylchedd iawn er mwyn i ganol ein trefi ffynnu. Mae'r dull hwn yn cydnabod bod y sectorau preifat a chymunedol yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau buddsoddiad a defnydd canol trefi, a bod gan y Cyngor rôl alluogi allweddol i'w chwarae wrth helpu i greu canol trefi llwyddiannus.  

 

Dilynwch y dolenni isod i archwilio gwybodaeth yng Nghanol Trefi Bro Morgannwg.:

Barry logo Welsh

Cowbridge logo Welsh
Llantwit Major Welsh
Penarth (2)

    Map of Vale of Glamorgan - Welsh

  

Ardaloedd Siopa 

  • Y Barri

    Barry Road, Tregatwg

    Bron Y Môr

    Canolfan Cwm Talwg 

    Dockside, Glannau'r Barri

    Canolfan Gibbondown 

    Goodsheds, Ardal Arloesi

    Prif Stryd, Tregatwg

    Cilgant y Parc

    Heol y Parc

    Heol Holtwn Uchaf

    Vere Street, Tregatwg

  • Dinas Powys 

    Camms's Corner

    Heol Caerdydd

    Cwrt y Castelll/Y Parêd

    Pentref Dinas Powys

  • Llanilltud Fawr 

    Trebefered

    Crawshay Drive

  • Penarth  

     

    Cornerswell Road

    Pill Street

    Tennyson Road 

  • Y Rhws 

    Adensfield Way, Ffont-y-gari

    Fontygary Road 

  • Sain Tathan 
     Y Sgwâr

  

   

Caru Siopa, Siopa'n Lleol

Rydyn ni’n annog pobl ledled Bro Morgannwg i ymweld â'u canol trefi lleol a chefnogi eu busnesau annibynnol.  I ddysgu rhagor a sut gallwch chi gefnogi’ch stryd fawr, dilynwch @valetowncentres ar y cyfryngau cymdeithasol. 

 

   

 

Trawsnewid Trefi 2022-2025

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar gyllid a mentrau Trawsnewid Trefi. Mae cyllid Trawsnewid Trefi yn cefnogi prosiectau i ailddatblygu a gwella canol trefi neu eu hardaloedd cyfagos. Mae'r rhaglen yn annog trefi defnydd cymysg fel lleoedd i fyw, gweithio, ymweld ac aros.

 

Trawsnewid Trefi: cymorth i wella canol trefi

 

Transforming Towns Logo

 

Mae'r cyllid a gymeradwywyd ar gyfer Bro Morgannwg ar gyfer 2022-2025 yn cynnwys:   

 

 

 

Creu Lleoedd 

Beth yw Creu Lleoedd?

Gyda chyllid wedi'i gymeradwyo drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, mae 4 cynllun yn cael eu datblygu ar gyfer pob un o'r 4 ardal canol tref. Bydd y cynlluniau yn rhoi llais i'r gymuned leol ynghylch dyfodol Penarth, Y Barri, y Bont-faen a Llanilltud Fawr.  Mae creu lleoedd yn ymwneud â gwneud mannau cyhoeddus yn well i bawb drwy eu troi'n lleoedd bywiog, croesawgar sy'n gwella ansawdd bywyd y gymuned. 

 

 

 

Placemaking logo

 

I gael gwybodaeth a sut i gymryd rhan, gallwch ddarllen mwy yma:  

  

 

Gwybodaeth i landlordiaid

Os ydych chi'n Landlord ar eiddo yng Nghanol y Dref, mae'n bwysig eich bod chi'n parhau i gydymffurfio. Mae nifer o ddolenni a darnau o wybodaeth defnyddiol isod i helpu. Os ydych yn landlord sy'n dymuno prydlesu eich eiddo masnachol, cysylltwch â'r tîm towncentres@valeofglamorgan.gov.uk fel y gallwn helpu i hysbysebu'r cyfle.

 

  • Rhentu Doeth Cymru 
    Mae Rhentu Doeth Cymru yn cynorthwyo’r rheini sy'n gosod neu reoli eiddo rhent yng Nghymru i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau Deddf Tai (Cymru) 2014 ac yn rhoi cyngor ar rentu cartrefi iach a diogel.
  • Gyfrifoldebau landlordiaid  
    Os ydych chi'n rhentu eich eiddo allan, mae gennych chi Gyfrifoldebau Landlord.
  • Tystysgrifau Perfformiad Ynni 
    Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) yn dweud wrthych pa mor ynni-effeithlon yw eiddo.  Mae'n rhaid i chi gael TPY os ydych chi’n gwerthu, rhentu neu adeiladu eiddo newydd. .
  • Benthyciadau Landlordiaid Eiddo Gwag  
    Mae Cyngor Bro Morgannwg, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn darparu benthyciadau di-log a Grantiau Cartrefi Gwag i wella cartrefi sydd mewn cyflwr gwael ledled Bro Morgannwg.

 

 

Trefi SMART a Data Nifer yr Ymwelwyr  

Mae tref smart yn ardal drefol sy'n defnyddio gwahanol fathau o ddulliau electronig a synwyryddion i gasglu data.  Defnyddir gwybodaeth a geir o'r data hwnnw i reoli asedau, adnoddau a gwasanaethau’n effeithlon; yn gyfnewid am hyn, defnyddir y data hwnnw i wella gweithrediadau a ffyniant yn y dyfodol ar hyd a lled y dref. 

 

Smart Towns

  

   

 

 

 

Cowbridge high street - people walking 2

 

Bydd gwybodaeth ychwanegol i fesur nifer yr ymwelwyr ym mhob un o bedair canolfan fanwerthu Bro Morgannwg yn y Barri, y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth yn galluogi'r Cyngor a manwerthwyr i fonitro iechyd a hyfywedd y trefi. Mae hyn yn golygu helpu busnesau i ddefnyddio data i weithio'n ddoethach, nid yn galetach, ac i nodi cyfleoedd ar gyfer twf; gan ddefnyddio data i gyfiawnhau a llywio buddsoddiad, ac i fesur llwyddiant unrhyw ymyriadau. 

 

Mae'r cyngor yng nghamau cynnar gosod cownteri ymwelwyr yn yr ardaloedd hyn.  

 

 

  

Grant Gwella Masnachol 

Bydd y Grant Gwella Masnachol yn rhoi cymorth ar gyfer gwelliannau a gwaith cynnal a chadw i wella gwedd flaen eiddo masnachol a manwerthu ym Mro Morgannwg a gwella ansawdd yr ardal fasnachu fewnol gan gynnwys hygyrchedd.   Bydd disgwyl i'r gwelliannau gyfrannu at effaith gadarnhaol ar y strydlun, gan greu amgylchedd mwy deniadol, bywiog, a mwy diogel a fydd yn cynyddu gweithgarwch manwerthu, yn hybu nifer yr ymwelwyr ac yn ysgogi buddsoddiad pellach gan y sector preifat.   

  

Prosiectau wedi'u cwblhau

 

 

 

 

Mae gwybodaeth ddefnyddiol arall ar gyfer eiddo masnachol yng nghanol trefi yn cynnwys: 


 

  

Cymorth Busnes a Chylchlythyrau 

  • Cymorth Busnes
    Dewch o hyd i wybodaeth, cyngor ac arweiniad ar gyfer eich busnes neu sefydliad, a'r holl gyfleoedd ariannu a phartneriaeth diweddaraf ym Mro Morgannwg a thu hwnt.
  • Cylchlythyr Cymorth Busnes 
    Cadwch yn hysbys am y newyddion a'r cyfleoedd diweddaraf o'n cymuned fusnes.  Derbyn diweddariadau rheolaidd ar gymorth busnes, digwyddiadau rhwydweithio a mentrau sydd wedi'u cynllunio i helpu'ch busnes i ffynnu.   Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr heddiw a chysylltwch â'r adnoddau a'r mewnwelediadau sy'n cadw ein hardal fasnachol yn fywiog ac yn llwyddiannus. 
  • Cylchlythyr Canol y Dref  
    Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr, a chi fydd y cyntaf i glywed am agoriadau newydd, cynigion arbennig, digwyddiadau cymunedol a datblygiadau cyffrous sy'n digwydd yng nghanol ein trefi a thu hwnt.  Peidiwch â cholli allan - ymunwch heddiw â'n cymuned sy'n tyfu a darganfyddwch bopeth sydd gan bob un o'n trefi bywiog i'w cynnig.

  

  

Cysylltu â Ni 

Os oes gennych gwestiynau o hyd ar ôl ymweld â'r safle, cysylltwch â thîm Canol y Trefi am gymorth.