Cost of Living Support Icon

Copïau o Dystysgrifau 

Copïau o Dystysgrifau Geni, Priodas, Partneriaeth Sifil a Marwolaeth

 

Mae’r Cofrestrydd Arolygu’n cadw cofnodion ar gyfer pob genedigaeth, priodas, partneriaeth sifil a marwolaeth sydd wedi digwydd ym Mro Morgannwg er 1837. 

 

Nodwch: mae ffiniau ardaloedd cofrestru wedi newid dros y blynyddoedd, ac o bosib bydd rhai cofnodion yn cael eu cad mewn ardaloedd cofrestru gwahanol erbyn hyn.

 

Gwybodaeth am ffiniau

 

Gallwch chi wneud cais am gopi o dystysgrif drwy’r post, dros y ffôn neu drwy alw heibio. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch chi:

  • y math o dystysgrif rydych yn gwneud cais amdani (geni, priodas, marwolaeth neu bartneriaeth sifil) 
  • yr enw neu’r enwau sy’n berthnasol i’r dystysgrif  
  • dyddiad y digwyddiad 
  • lleoliad y digwyddiad
  • unrhyw wybodaeth bellach berthnasol a allai fod o help i ni ddod o hyd i’r dystysgrif

  

Tystysgrifau Copi Safonol

 

Pris: £11.00 yn barod i'w casglu/postio 2il ddosbarth ar ôl 3.00 pm ar y 15fed diwrnod

Tystysgrif Copi â Blaenoriaeth

Pris: £35.00 yn barod i'w casglu/postio dosbarth 1af ar ô 3.00 pm ar y diwrnod gwaith nesaf

Sut i wneud cais

Cais ar-lein 

 

CAIS AM DYSTYSGRIF GENI, PRIODAS, MARWOLAETH

 

Cais dros y ffôn 

Gellir gwneud cais am ffurflen dros y ffôn.

  • 01446 700111

 

Gwneud cais yn y Swyddfa Gofrestru 

Gall ceisiadau gael eu gwneud drwy ymweld â Swyddfa Gofrestru Bro Morgannwg yn y Swyddfeydd Dinesig yn y Barri. Mae hyn yn golygu bod angen llenwi ffurflen fer. Derbynnir taliadau mewn arian parod, siec neu gerdyn.

 

Cais drwy’r post 

Dylid anfon siec neu archeb bost gyda phob cais, yn daladwy i: 'Cyngor Bro Morgannwg'. Os gwneir cais am dystysgrifau lluosog, rydyn ni’n argymell eich bod yn anfon siec ar wahân ar gyfer pob cofnod.

 

Swyddfa Gofrestru Bro Morgannwg

Y Swyddfeydd Dinesig 

Holton Road 

Y Barri 

CF63 4RU

 

 

Os ydy’r wybodaeth a roddir yn gyflawn ac yn gywir, byddwn yn darparu tystysgrif o fewn pum niwrnod gwaith. Fodd bynnag, os mai gwybodaeth rannol yn unig y gellir ei rhoi, efallai fydd angen ychwaneg o amser arnom i chwilio’r mynegeion â llaw, neu bydd angen manylion pellach gennych chi cyn i ni gyflawni chwiliad. 

 

Os na fyddwn ni’n medru dod o hyd i’r cofnod y gwnaethoch gais amdani, byddwn yn dychwelyd eich siec neu archeb bost atoch.