Cost of Living Support Icon

Iechyd Meddwl a Llesiant

Mewn termau cyffredinol, gallwn ni ddisgrifio llesiant meddwl fel teimlo’n bositif, yn fodlon, yn gynhyrchiol ac yn medru ymdopi â straen bywyd bob dydd a sefyllfaoedd anodd.


Bydd hyd at un ym mhob pedwar o bobl yn profi problemau iechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod eu bywyd. Gall y problemau amrywio o straen, pryderon a gofidiau bywyd bob dydd i gyflyrau tymor hir mwy difrifol megis iselder dwys, anhwylder deubegwn, seicosis a sgitsoffrenia.

 

Sefyllfaoedd o straen sydd wrth wraidd y rhan fwyaf o’r problemau hyn, megis trafferthion ariannol neu brofedigaeth agos. Er y gall y teimladau fod yn ddwys tu hwnt, yn aml, byddant dros dro. Gall y gefnogaeth briodol wneud byd o wahaniaeth wrth geisio goresgyn y problemau hyn.

 

Mae’n gyfrifoldeb arnom ni i amddiffyn a chefnogir unigolyn sy’n dioddef, eu teulu a’u cynhalwyr. Mae Deddf Gallu Meddyliol 2005 yn rhoi’r pwyslais ar gefnogi a galluogi unigolion i wneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain. 

 

 

Mae gwybodaeth bellach ar wefan Llywodraeth y DU yma: Mental Capacity Act Code of Practice; Deprivation of liberty safeguards.

 

Tîm Iechyd Meddwl Ardal y Fro (VLMHT)

Gall pobl brofi anawsterau iechyd meddwl ar unrhyw adeg yn eu bywydau, bydd yr effaith ar eu lles yn amrywio rhwng unigolion. Gall hyn ddibynnu ar y diagnosis a gânt a sut mae hynny'n effeithio ar weithredu o ddydd i ddydd.

 

Yn gyffredinol, nodir gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru mewn darn o gyfraith o'r enw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 sy'n nodi'r cymorth y mae gan bobl hawl iddo. Yn y bôn, rhennir gwasanaethau yn rhai Sylfaenol ac Eilaidd. Yn gyffredinol, mae gwasanaethau sylfaenol ar lefel meddygon teulu lle mae unigolion yn cael problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol neu'r rhai â phroblemau iechyd meddwl mwy difrifol sy'n sefydlog ar hyn o bryd. Os oes gennych bryderon ynghylch eich iechyd meddwl neu iechyd meddwl aelod o'r teulu/ffrind yn y lle cyntaf dylech gysylltu â'ch meddyg teulu. Gall eich meddyg teulu gynnig meddyginiaeth, therapi siarad o fewn y practis, cyfeirio at wasanaethau eraill neu atgyfeirio at wasanaethau eraill yn dibynnu ar eich anghenion.

 

Daw'r VLMHT o fewn 'Gofal Eilaidd' ac mae'n rhoi cymorth gydag anghenion sydd wedi’u hasesu. Caiff asesiadau ar gyfer Gofal Cymdeithasol eu cynnal, eu darparu a'u hadolygu yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r dull hwn sy'n seiliedig ar gryfder yn gweithio i hybu lles. Mae Gweithwyr Cymdeithasol Bro Morgannwg yn gweithio o fewn Tîm Iechyd Meddwl Ardal y Fro sydd wedi'i leoli yn Ysbyty'r Barri. Maent yn gweithio ochr yn ochr â Seiciatryddion, Nyrsys Iechyd Meddwl Cymunedol, Therapyddion Galwedigaethol, Seicoleg, cynorthwywyr gofal iechyd a gweithwyr cymorth cymunedol.

 

Gwasanaeth y Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) O fewn gwasanaethau yn ystod y dydd, mae Bro Morgannwg yn gweithredu'r gwasanaeth GPIMC. Mae hyn yn darparu Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy i gyflawni swyddogaethau'r Ddeddf Iechyd Meddwl, yn enwedig o ran asesu ar gyfer derbyniadau gorfodol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

 

Fel arfer, drwy'r meddyg teulu y caiff atgyfeiriadau neu gallwch ofyn am asesiad:

 

Gwneud cais am asesiad

 

 

Dewis-logoDewis Cymru

Gwybodaeth bellach am iechyd a llesiant meddwl ym Mro Morgannwg. 

 

Dewis Cymru

 

 

Mae ystod eang o wasanaethau ar gael ym Mro Morgannwg i gefnogi pobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Os ydych chi’n poeni bod gennych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod broblem iechyd meddwl, ewch at eich meddyg teulu yn y lle cyntaf.

 

Os oes angen i chi siarad â rhywun neu weld rhywun am eich iechyd meddwl y tu hwnt i oriau agor y meddyg teulu, gallwch fynd i’r Adran Frys neu ffonio 999 os oes angen.