Argymhellion Posibl
Gallai argymhellion gynnwys:
Cyngor ac Arweiniad
Weithiau gwybodaeth neu gyngor yw'r cyfan sydd ei angen.
Offer
Gall offer ychwanegol eich helpu i gyflawni gweithgareddau dyddiol yn fwy diogel ac annibynnol.
Teleofal a Thechnoleg
Gall technoleg helpu i leihau risgiau a darparu sicrwydd.
Cymorth Synhwyraidd
Gall cymorth i bobl ag amhariad ar eu golwg neu eu clyw gynnwys cyngor arbenigol, offer, hyfforddiant a strategaethau i helpu i gynnal annibyniaeth a diogelwch yn y cartref.
Addasiadau i’r Cartref
Gall newidiadau i'ch eiddo wella mynediad, diogelwch ac annibyniaeth.
Addasiadau i’r Cartref
Mae addasiadau yn newidiadau a wneir i'ch cartref i wella diogelwch, mynediad ac annibyniaeth.
Mae enghreifftiau yn cynnwys:
- Rheiliau gafael
- Ramp mynediad
- Lifftiau grisiau
- Cawodydd mynediad gwastad
- Toiledau hygyrch
- Lledu drws
- Lifft trwy’r llawr
Nid oes angen cyllid neu gyfranogiad Therapi Galwedigaethol ar bob addasiad. Mae rhai pobl yn dewis trefnu addasiadau yn breifat.
Ni chodir tâl am fân waith sy'n costio llai na £1,000. Caiff y rhain eu hadnabod yn dilyn asesiad gan y tîm perthnasol.
Bydd gwaith sy'n costio dros £1,000 mewn cartrefi preifat neu gartrefi sy'n cael eu rhentu'n breifat yn destun asesiad ariannol (os yw’r person sydd angen y gwaith dros 18 oed). Maen nhw’n cael eu darparu drwy Grant Cyfleusterau i'r Anabl.
Os oes angen gwaith mewn eiddo sy'n eiddo i Gymdeithas Dai, bydd y Therapydd Galwedigaethol yn cwblhau asesiad. Yna anfonir cais at y Gymdeithas Dai er mwyn iddynt drefnu cwblhau'r gwaith a argymhellir.