Cost of Living Support Icon

Darpariaeth V-Pod Symudol  

Canolfan ieuenctid symudol ydy’r V-Pod, sy’n gweithredu trwy Fro Morgannwg. 

 

Nod y project ydy ymgysylltu â phobl ifanc mewn cymunedau gan gynnig cyfleoedd sy’n ateb eu hanghenion.  Mae’r project yn cynnwys ystod o adnoddau gan gynnwys TGCh ac offer aml-gyfryngau, cynhyrchu cerddoriaeth, gemau a chyfleoedd chwaraeon.

 

Prif Swyddfa: Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, Bro Morgannwg, CF63 4RU. 

 

Mae tîm o Weithwyr Ymgysylltu â Ieuenctid o’r Tîm Cyffredinol yn cefnogi’r V-Pod.  Mae’r V-Pod yn gweithredu trwy Fro Morgannwg yn sicrhau bod rhywbeth ar gael yn ystod gwyliau’r ysgol ac yn yr ardaloedd lle mae llai neu ddim darpariaeth ieuenctid.   

 

V-Pod

 

Beth rydyn ni’n ei wneud: 

  • Cynnig darpariaeth mynediad agored i holl bobl ifanc 11-25 oed.
  • Ymgysylltu â phobl ifanc yn y gymuned gan roi cyfle iddynt fod yn rhan o gwrs achrededig lleol a chenedlaethol.
  • Cynorthwyo pobl ifanc wrth iddynt bontio o blentyndod i fywyd oedolyn trwy weithgareddau a sesiynau; rydym yn hybu eu datyblygiad addysgol, cymdeithasol a diwylliannol.
  • Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ddatblygu sgiliau gwneud penderfyniadau o ran materion sy’n effeithio arnyn nhw a’u cyfoedion, a deall a chymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
  • Cynorthwyo projectau cymunedol trwy Fro Morgannwg.

 

Cysylltwch

Os oes angen mwy o wybodaeth am y project cysylltwch:

  • 01446 709373

Cyfryngau Cymdeithasol

Dilynwch Wasanaeth Ieuenctid y Fro ar Facebook a Twitter a rhannwch eich lluniau a’ch profiadau ar ein cyfryngau cymdeithasol: