Cost of Living Support Icon

Cynigion Uwchraddio Pafiliwn ac Ardal Chwarae Belle Vue

The Council has received Section 106 financial contributions for Community Facilities from nearby developments, and this has been allocated to Belle Vue Pavilion and play area to comprehensively upgrade these well-used facilities.

Mae'r Cyngor wedi derbyn cyfraniadau ariannol Adran 106 ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol drwy ddatblygiadau cyfagos, ac mae’r cyfraniadau hyn wedi'u dyrannu i Bafiliwn ac ardal chwarae Belle Vue er mwyn uwchraddio'r cyfleusterau poblogaidd hyn yn gynhwysfawr.

 

Bydd y gwaith o uwchraddio'r safle hwn yn dechrau ar 20 Mehefin 2022 a rhagwelir y bydd angen 37 wythnos i’w gwblhau.


Mae caniatâd cynllunio (cyfeirnod cynllunio 2021/00363/RG3) wedi'i gymeradwyo ar gyfer dymchwel y pafiliwn presennol ac adeiladau ategol cyfagos, ac adeiladu adeilad cymunedol newydd a rennir a gwaith allanol cysylltiedig i greu mynediad gwastad i gerddwyr. 


Rhagwelir y caiff yr adeilad newydd ei drosglwyddo ganol mis Mawrth 2023.  

 

Mae'r parth adeiladu wedi'i ystyried yn ofalus i gyfyngu unrhyw darfu ar ddefnyddwyr y parc.  Bydd yr ardal chwarae a'r lawnt fowlio yn parhau i fod ar agor yn ystod y gwaith.  Felly, gallai’r parth adeiladu newid yn amodol ar asesiad risg. Bydd y mynediad i gerddwyr i'r parc drwy Albert Crescent ar gau yn ystod y cyfnod adeiladu.  


Mae gweithrediadau’r Contractwyr wedi'u cyfyngu i’r amseroedd canlynol: 

 

  • Dydd Llun i Dydd Gwener: 8:00am - 6:00pm)
  • Dydd Sadwrn: 8:00am - 1:00pm)

 

Dydd Sul a Gwyliau’r Banc: Ni chaniateir gweithio. 

 

Bydd y Contractwr yn cyfyngu gweithrediadau ymhellach i ystyried amseroedd danfon / casglu ysgolion (o ddydd Llun i ddydd Gwener), o ran danfoniadau, dadlwytho a symud cerbydau a deunyddiau.  Er y bydd rhywfaint o darfu oherwydd y gwaith adeiladu, bydd y Cyngor yn ymdrechu i weithio gyda'r contractwr penodedig i leihau hyn. 

 

Ynglŷn â’r Prosiect

  • Pam mae cynnig yn cael ei ystyried?

    Yn 2015, cynhaliwyd arolwg cyflwr a ddaeth i’r casgliad bod nodweddion allanol yr adeilad wedi cyrraedd diwedd eu hoes” a gallai maint y risgiau y tynnwyd sylw atynt fod yn ddigon i gau’r adeilad. 


    Mae'r adeilad presennol yn hwyluso amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol, addysgol, chwarae, chwaraeon a hyfforddiant yn y parc ac mae eisoes yn ganolfan i breswylwyr a grwpiau cymunedol, o ddigwyddiadau blynyddol ffurfiol i weithgareddau anffurfiol fel clybiau chwarae a garddio ar ôl ysgol. Mae'r adeilad hefyd yn gartref i Glwb Bowlio Belle Vue.


    Byddai colli adeilad o'r fath yn arwain at fwlch enfawr yn y gymuned.

     

     

     

     

  • Pa ymgyngoriadau sydd wedi'u cynnal? 

    Cynhaliwyd ymgyngoriadau ffurfiol yn 2019 a 2020 i bennu dyfodol yr adeilad ac i ddeall a gwerthfawrogi barn trigolion a grwpiau defnyddwyr yn llawn. Ymgynghorwyd ar gynlluniau drafft yn hydref 2020 fel sail ar gyfer trafodaeth.

  • Pa opsiynau sydd wedi'u hystyried?

    Mae'r Cyngor wedi ystyried opsiynau eraill megis uwchraddio'r adeilad a'r strwythurau presennol, er nad yw'r opsiwn hwn yn ymarferol. Bydd yr adeilad newydd yn: 

     

    • Cael ei adeiladu i safonau adeiladu'r 21ain ganrif, gan gynnig cyfleuster cymunedol mwy effeithlon a lleihau'r costau a'r ôl troed carbon.

    • Mynd i'r afael â phob mater fel hygyrchedd, cynllun, draeniau, cyfleustodau ac adeiledd.

    • Darparu lle hyblyg i ddiwallu anghenion amrywiaeth eang o grwpiau defnyddwyr: rhai newydd a rhai presennol.

    • Cynyddu lefel mynediad i'r gymuned a gwella'r berthynas sydd eisoes yn dda ar draws y gymuned; cyfuno’r lle dan do â’r lle awyr agored.

     

  • Pwy fyddai'n defnyddio'r adeilad newydd? 

    Mae nifer o grwpiau eisoes yn defnyddio adeilad presennol y pafiliwn, gan gynnwys Cyfeillion Belle Vue a Chlwb Bowlio Penarth. 

  • Sut mae'r adeilad newydd wedi'i ariannu?
    Mae'r Cyngor wedi derbyn nifer o gyfraniadau Adran 106 gan ddatblygiadau cyfagos. Mae'r Cyngor hefyd wedi gwneud cais i'r Loteri a'r grant "Pobl a Lleoedd".
  • Beth yw'r cynlluniau ar gyfer yr ardal chwarae?

    Bydd Ardal Chwarae Belle Vue yn cael ei huwchraddio'n llawn yn ddiweddarach eleni gydag ychydig o waith atgyweirio i'r chwrligwgan dringo a’r byrddau'n cael ei wneud y gwanwyn hwn. Mae cerflun Bella'r ddraig hefyd wedi cael ei symud o’r safle i'w hadnewyddu.

  • Pam rydych chi wedi cynnwys ciosg/caffi? 

    Mae'r ciosg/caffi arfaethedig wedi'i gyflwyno'n ddangosol ar y cynlluniau, o ystyried y ffaith bod y cynnig i gynnwys Caffi wedi’i gefnogi’n fawr yn y gymuned yn ystod ymgynghoriadau a gynhaliwyd yn 2019/20.

     

     

 

Cysylltu â Ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â: