Cost of Living Support Icon

Adolygiad Gostyngiad Person Sengl

Mae'r Cyngor yn adolygu gostyngiadau person sengl y Dreth Gyngor, er mwyn sicrhau bod trigolion dim ond yn derbyn y gostyngiad yn y dreth gyngor os oes ganddynt hawl briodol iddo.

 

Gan ddefnyddio dull paru data deallus, rydym yn cymharu cofnodion i wirio dilysrwydd y gostyngiadau a ddyfarnwyd.

 

Bydd y gostyngiad yn cael ei ddileu a’i ôl-ddyddio ar gyfer unrhyw drigolion sy'n derbyn gostyngiad ond nad oes ganddynt hawl iddo mwyach, os yw’r dystiolaeth yn cefnogi hynny. Pan fo'n briodol, bydd y Cyngor yn rhoi cosb ariannol neu'n erlyn unigolion am fethu â datgan nad oes ganddynt hawl i'r gostyngiad mwyach.

 

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n derbyn llythyr adolygu am fy ngostyngiad person sengl?

Y ffordd gyflymaf a hawsaf o gwblhau eich adolygiad yw ar-lein. Bydd angen eich rhif PIN unigryw, rhif eich cyfrif Treth Gyngor a'ch cod post wrth law. Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth hon yn y llythyr neu'r e-bost rydym wedi'i anfon atoch.

 

Ymateb i'r adolygiad