Cost of Living Support Icon

Cyllid a Grantiau i Ddarparwyr Gofal Plant 

Gweler y wybodaeth sy'n ymwneud â grantiau sydd ar gael yn ystod 2022-2023 i gefnogi'r sector gofal plant. 

 

Y Cynllun Gofal Plant Di-dreth

Mae’r gofal plant di-dreth yn gynllunnewydd gan y llywodraeth i helpu rhieni sy'n gweithio gyda chost gofal plant.

 

Gall rhieni sy’n gymwys gyda phlant dan 12 oed gael hyd at £2,000 y plentyn, y flwyddyn, tuag at eu costau gofal plant (neu hyd at £4,000 ar gyfer plant anabl dan 17 oed).

 

Mae Dewisiadau Gofal Plant wedi rhoi'r holl wybodaeth at ei gilydd y mae ei hangen ar ddarparwyr gofal plant, gan gynnwys y Pecyn Offer Cyfathrebu a Chlip Fideo gan ddarparwyr sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer y Cynllun Gofal Plant Di-dreth:  

 

Dewisiadau gofal plant - beth sydd angen i ddarparwyr gofal plant ei wybod? (saesned yn unig)

 

Darllenwch sut i gofrestru i gael Gofal Plant Di-dreth ac agorwch gyfrif darparwr gofal plant i gael taliadau gan rieni sy’n defnyddio’r cynllun:

 

Gov.Uk - Cofrestrwch ar gyfer Gofal Plant Di-dreth os ydych yn ddarparwr gofal plant (Saesneg yn unig)

bigstock-Stickman-Illustration-of-a-Div-154541381

Cynnig Gofal Plant yng Nghymru

 

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru’n darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i rieni cymwys plant 3 a 4 oed yng Nghymru, ar gyfer hyd at 48 wythnos o'r flwyddyn. 

 

Fel darparwr, bydd angen i chi gofrestru i fod yn rhan o'r cynllun. Ewch i'n tudalen Cynnig Gofal Plant am ragor o wybodaeth: www.valeofglamorgan.gov.uk/childcareoffer

 

 

Y Cynnig Gofal Plant ym Mro Morgannwg

Gofal Plant yn Gynnar Cwestiynau ac Atebion i Ddarparwyr

 

Cyllid Ychwanegol

Os ydych chi'n ystyried dod yn warchodwr plant ym Mro Morgannwg, efallai y bydd gennych hawl i gael arian i gefnogi'ch hyfforddiant a sefydlu costau, os ydych chi'n bodloni meini prawf penodol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'n Tîm GGD:

 

Grantiau Gofal Plant a Chwarae 

Mae tîm Blynyddoedd Cynnar Bro Morgannwg wedi sicrhau cyllid i gefnogi cynaliadwyedd lleoliadau gofal plant ac i sefydlu lleoedd gofal plant newydd.

 

Gwneud cais am arian:  

 

Ar gyfer creu lleoedd gofal plant newydd, bydd gofyn i chi ddangos yr angen yn yr ardal - oes gennych restrau aros, oes galw gan rieni, canfyddiadau Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant ac ati.

 

Bydd ceisiadau am grant yn aros ar agor tan 01 Chwefror 2024 neu nes y bydd yr holl arian wedi'i ddyrannu. 

 

Mae'r panel yn bwriadu cyfarfod ar y dydd Gwener olaf bob mis a bydd yn eich hysbysu o'u penderfyniad o fewn 2 wythnos i hyn.

 

Darllenwch y wybodaeth o fewn y cais yn ofalus cyn gwneud cais a dychwelyd.    Bydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu gwrthod. 

*PWYSIG - Rydym yn gofyn i unrhyw leoliad sy’n gwneud cais am grant ddiweddaru eu manylion a’u cyhoeddi ar DEWIS Cymru, gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd helpu gyda hyn 01446 704704

 

Grantiau Gofal Plant a Chwarae Ffurflen Gais 2023- 2024

Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2022 

Ar gyfer cynaliadwyedd eich lleoliad, bydd gofyn i chi ddangos colled ariannol sylweddol barhaus / colled ariannol sylweddol 

Grant Cyfalaf y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

Mae'n bleser gennym gyhoeddi parhad Rhaglen Grantiau Bach Cyfalaf Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn 2023-24.  Gweler y ffurflen gais a'r canllawiau cwblhau.

 

Wrth wneud cais, darllenwch yr holl ddogfennaeth ar gyfer eich math o leoliad a rhowch yr holl dystiolaeth sydd ei hangen.  Bydd ceisiadau heb eu cwblhau’n llawn yn cael eu gwrthod.  Er mwyn cydymffurfio â’r canllawiau, y meini prawf a’r gofynion archwilio, bydd swyddog yn cysylltu ag ymgeiswyr, ac yn trefnu ymweliad os yw'n briodol, mewn perthynas â’u cais. 

 

Gall darparwyr gofal plant wneud cais am yr uchafswm sydd ar gael yn y flwyddyn ariannol, os cawsoch gyllid yn 2023-24 neu beidio.

 

Cyngor Bro Morgannwg Ffurflen Gais Grant Cyfalaf a Gofal Plant y Blynyddoedd Cynnar 2023 - 2024

 

Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar Meini prawf grantiau bach Cyfalaf (gwarchodwyr plant) 2023 - 2024

 

Canllawiau darparwyr gofal plant (ac eithrio gwarchodwyr plant) 2023 -24 

 

* PWYSIG - Rydym yn gofyn i unrhyw leoliad sy’n gwneud cais am grant ddiweddaru eu manylion a’u cyhoeddi ar DEWIS Cymru, gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd helpu gyda hyn 01446 704704

 

* Sylwch na fydd cyfarfod panel ar gyfer grantiau Cyfalaf Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ym mis Awst 2023.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra. 

 

  • 01446 704704
  • Vale Family Information Service   
  • @ValeFIS