Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

 

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

 

Hysbysiad o’r Cyfarfod     CABINET

 

Dyddiad ac Amser

y Cyfarfod                       DYDD IAU, 9 MEHEFIN, 2022 AM 2.00 P.M.

 

Lleoliad                           CYFARFOD O BELL

 

 

AGENDA

 

RHAN I

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.         Cofnodion.

[Gweld Cofnod]

 

3.         Derbyn datganiadau o ddiddordeb.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau’r Arweinydd Gweithredol ac Aeold Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau –

4.         Rhyddhad Dewisol Treth y Cyngor.

[Gweld Cofnod]

5.         Ch4 Adroddiad Absenoldeb Salwch 2021/2022.

[Gweld Cofnod]

6.         Apwyntiadau i Gyrff Allanol / Cydbwyllgorau. [Gweld Atodiad A wedi'i Ddiweddaru]

[Gweld Cofnod]

7.         Cynllun Cost Byw yn ôl Disgresiwn.

[Gweld Cofnod]

8.         Cynnig Trwydded Meddalwedd Microsoft 2022 – 2025.

[Gweld Cofnod]

9.         Costau Byw: Y Cyflog Byw a Chyfraddau Tâl ar gyfer Staff Gradd Un a Dau.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau’r Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Lefydd Cynaliadwy –

10.       Cronfa Grant Cymunedau Cryf.

[Gweld Cofnod]

11.       Dyfarnu Contractau ar gyfer Gwasanaethau Bws Lleol â Chymorth.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg

12.       Adroddiad Drafft ar yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

13.        Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol: 2021/22.

[Gweld Cofnod]

 

14.       Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

 

EFALLAI Y GWAHERDDIR Y CYHOEDD A'R WASG O’R CYFARFOD TRA YR YSTYRIR YR EITEM/EITEMAU CANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

Adroddiad yr Arweinydd Gweithredol ac Aeold Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau –

15.       Cynnig Trwydded Meddalwedd Microsoft 2022 – 2025.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad yr Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Lefydd Cynaliadwy –

16.       Dyfarnu Contractau ar gyfer Gwasanaethau Bws Lleol â Chymorth.

[Gweld Cofnod]

 

17.       Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan II).

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

1 Mehefin, 2022

 

 

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 -

Archwilio papurau cefndirol:

Yn y lle cyntaf, dylid gwneud ymholiadau i

M. Swindell 01446 709479.

E‑bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Aelodau’r Cabinet – 

Y Cynghorydd L. Burnett (Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet Perfformiad ac Adnoddau)

Y Cynghorydd B.E. Brooks (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Lefydd Cynaliadwy)

Y Cynghorydd R.M. Birch (Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg)

Y Cynghorydd M.R. Wilson (Aelod Cabinet dros Gwasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu)

Y Cynghorydd M.R. Wilkinson (Aelod Cabinet dros Tai Secor Cyhoeddus a Chynnwys Tenantiaid)

Y Cynghorydd E. Williams (Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd)

Y Cynghorydd S. Sivagnanam (Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol)

Y Cynghorydd G. John (Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles)

 

 

SYLWCH: Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd.  Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol.  Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol.  Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’  sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol.  Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu ffrydio’n fyw, ac eithrio lle mae materion Rhan II yn cael eu hystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol ac yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor, sydd i’w weld yn https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf.

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709479.

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx