Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

 

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

 

Hysbysiad o’r Cyfarfod       CABINET

 

Dyddiad ac Amser

y Cyfarfod                         DYDD IAU, 29 MEDI, 2022 AM 2.00 P.M.

 

Lleoliad                             CYFARFOD HYBRID

 

AGENDA

 

RHAN I

 

1.       Ymddiheuriadau am absenoldeb.

[Gweld Cofnod]

 

2.       Cofnodion.

[Gweld Cofnod]

 

3.       Derbyn datganiadau o ddiddordeb.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

Cyfeirnod -

4.       Y Diweddaraf ar Chwaraeon a Chwarae – Pwyllgor Craffu Byw'n Iach a Gofal Cymdeithasol, 6 Medi, 2022.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau’r Arweinydd Gweithredol a’r Aelod Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau –

5.       Diweddariad ar Fentrau Cydweithio Strategol.

[Gweld Cofnod]

6.       Rhyddhad Dewisol Treth y Cyngor i Wladolion Wcrain.

[Gweld Cofnod]

7.       Diweddariad Uwchraddio Oracle.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad y Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy –

8.       Polisi Cludiant Ysgol a Choleg diwygiedig.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau’r Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg –

9.       Cynnig i ychwanegu St Richard Gwyn at y Rhaglen Gyfalaf.

[Gweld Cofnod]

10.     Prynu Tir ar Fferm Cosmeston Isaf ar gyfer Datblygiad Addysg ar gyfer Ysgol AAA.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad yr Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol ac Iechyd –

11.     Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2021/22 – Fersiwn Derfynol.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Ymgysylltiad Cymunedol, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol -

12.     Cynllun Datblygu Lleol Bro Morgannwg 2011-2026: Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Ganllawiau Cynllunio Atodol Drafft ar Ddatblygu Manwerthu a Chanol Trefi a Datblygu Economaidd, Tir Cyflogaeth ac Adeiladau.

[Gweld Cofnod]

13.     Cerfluniau, Henebion, Enwau Strydoedd ac Enwau Adeiladau - Panel Adolygu – Diweddariad.

[Gweld Cofnod]

 

14.     Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

 

EFALLAI Y GWAHERDDIR Y CYHOEDD A'R WASG O’R CYFARFOD TRA YR YSTYRIR YR EITEM/EITEMAU CANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg –

15.     Prynu Tir ar Fferm Cosmeston Isaf ar gyfer Datblygiad Addysg ar gyfer Ysgol AAA.

[Gweld Cofnod]

 

16.     Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

23 Medi, 2022

 

 

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 -

Archwilio papurau cefndirol:

Yn y lle cyntaf, dylid gwneud ymholiadau i M. Swindell Ffôn: 01446 709479.

E‑bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Aelodau’r Cabinet – 

Y Cynghorydd L. Burnett (Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet Perfformiad ac Adnoddau)

Y Cynghorydd B.E. Brooks (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Lefydd Cynaliadwy)

Y Cynghorydd R.M. Birch (Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg)

Y Cynghorydd M.R. Wilson (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu)

Y Cynghorydd M.R. Wilkinson (Aelod Cabinet dros Dai Sector Cyhoeddus a Chynnwys Tenantiaid)

Y Cynghorydd E. Williams (Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd)

Y Cynghorydd S. Sivagnanam (Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol)

Y Cynghorydd G. John (Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles)

 

 

SYLWCH: Mae'r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd. Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu'n gyson yn seiliedig ar ganllawiau sy’n dod i law gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

 

Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor:

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf   ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709479

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx