Cost of Living Support Icon

Adolygiad o Bleidleiswyr drwy’r Post – Etholiadau Llywodraeth Leol a’r Senedd

Mae dyletswydd arnom i gasglu copïau newydd o lofnodion pleidleiswyr drwy’r post bob pum mlynedd er mwyn sicrhau bod gennym lofnod diweddar.  

 

Adnewyddu'r bleidlais bost nesaf fydd Dydd Gwener 12 Ionawr 2024

 

Mae hyn yn bwysig iawn oherwydd y defnyddir eich llofnod mewn etholiadau wrth fwrw eich pleidlais.

 

Hysbysiad Cadarnhau Pleidlais drwy’r Post.  

Os yw’r llofnod sydd gennym yn ein ffeil yn bum mlwydd oed, neu'n hŷn, byddwn yn anfon ffurflen atoch a elwir yn Hysbysiad Cadarnhau Pleidlais drwy’r Post.  

  • Hysbysiad Cadarnhau Pleidlais drwy’r Post: Dydd Gwener 12 Ionawr 2024.

  • Atgoffa: Dydd Gwener 02 Chwefror 2024.

 

 

  • Pam rydych chi wedi derbyn Hysbysiad Cadarnhau Pleidlais drwy’r Post?

    Byddwch yn derbyn Hysbysiad Cadarnhau Pleidlais drwy’r Post os yw’n bum mlynedd neu’n fwy ers i chi roi copi o’ch llofnod inni fel y gallech bleidleisio drwy’r post.

     

    Os hoffech chi barhau i dderbyn pleidlais drwy’r post, mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen a’i dychwelyd atom erbyn Dydd Gwener 02 Chwefror 2024 fan bellaf.

     

    Os na fyddwn yn derbyn eich ffurflen wedi’i llenwi erbyn Dydd Gwener 02 Chwefror 2024, ni fyddwch yn gallu pleidleisio drwy’r post yn yr etholiadau neu’r refferenda y mae gennych hawl i bleidleisio ynddynt.  

    Mae hyn oherwydd ein bod yn canslo pleidleisiau drwy’r post nesaf ar Dydd Llun 26 Chwefror 2024.

  • Beth sydd ar eich Ffurflen Hysbysiad Cadarnhau Pleidlais drwy’r Post? 

    Bydd y ffurflen yn dweud wrthych pa fathau o etholiad y mae gennych hawl i bleidleisio ynddynt ar hyn o bryd.

     

    Bydd hefyd yn cynnwys eich dyddiad geni ac yn gofyn i chi gadarnhau a yw’n gywir.

     

    Bydd adran hefyd i esbonio beth i’w wneud os na allwch lenwi’r ffurflen (gweler cwestiwn 4).

  • Pam mae angen eich llofnod a’ch dyddiad geni?

    Mae eich llofnod a’ch dyddiad geni'n cael eu defnyddio fel prawf adnabod.  

     

    Mae’n rhaid i ni dderbyn dau brawf adnabod er mwyn gwneud pleidleisio drwy’r post yn fwy diogel.

     

    Mae cael yr wybodaeth hon oddi wrthych yn ein helpu i atal twyll pleidleisio ac i sicrhau mai chi sydd wedi llenwi’ch pleidlais drwy’r post.

     

    Defnyddir profion adnabod i’ch diogelu chi a’ch pleidlais.Mae’r profion hyn yn gyfrinachol a dim ond y Swyddfa Gofrestru Etholiadol sy’n eu defnyddio - nid ydynt yn ymddangos ar y Gofrestr Etholwyr.

  • Beth os nad ydych yn gallu llofnodi bellach neu os nad ydych yn gallu darllen nac ysgrifennu? 

    Bydd angen i chi ofyn am ffurflen ildio hawl oddi wrthym.  

     

    Mae adran ar y Ffurflen Hysbysiad Cadarnhau Pleidlais drwy’r Post y gallwch roi tic ynddi a fydd yn dweud wrthym fod angen ffurflen ildio arnoch chi.   Dylech ddychwelyd hon inni a byddwn yn anfon ffurflen gais atoch.

     

    Neu gallwch ein ffonio ni yn eich Swyddfa Gofrestru Etholiadol leol.  Gweler y botwm Cysylltu â Ni ar ddiwedd y dudalen hon.

     

    Os caniateir ildio hawl, byddwn ond yn gwneud hyn ar gyfer y llofnod a bydd yn rhaid i chi roi’ch dyddiad geni inni o hyd.

  • Beth arall y mae’n rhaid i mi ei wybod? 

    Os na ddychweloch chi eich ffurflen erbyn Dydd Gwener 02 Chwefror 2024 a chafodd eich pleidlais drwy’r post ei chanslo, nid yw hyn yn eich atal rhag gwneud cais eto am bleidlais drwy’r post.  

     

    Os ydych am wneud cais eto, dylech lenwi Ffurflen Cais am Bleidlais drwy’r Post a’i dychwelyd atom.

     

    Ceir copi electronig o’r Ffurflen Cais am Bleidlais drwy’r Post ar ein gwe-dudalen Ceisiadau ac Ildio Hawl drwy glicio ar y botwm isod:

     

    Ffurflen Gais a Ffurflen Ildio Hawl

     

    Os oes gennych bleidlais drwy’r post, ni chewch bleidleisio’n bersonol yn yr orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio.  Fodd bynnag, gallwch fynd â’ch papur pleidleisio i’r orsaf bleidleisio yn hytrach na'i roi yn y blwch post.

 

  

 

    Cysylltu â ni