Cost of Living Support Icon

Fferm Ymddiriedolaeth Amelia

Crwydrwch y fferm a’r coetiroedd drwy wneud gweithgareddau dan arweiniad yr athro. Yn amgylchedd yr ystafell ddosbarth awyr agored, nid yw dysgu y tu allan erioed wedi bod yn mor ddiddorol a hwyliog. 

Donkies

Grwpiau Oedran: Blynyddoedd Cynnar, Cyfnod Allweddol 1, Cyfnod Allweddol 2

 

Categorïau

Parks and Greenspace IconFarming and Food IconSports and Adventure Icon

Testunau

Knowledge IconCreative Development IconLanguage and Literature IconMaths Development IconPersonal Social Development IconPhysical Development Icon

 

Ymweliadau Addysgol 

Mae ysgolion, colegau, meithrinfeydd a grwpiau oedolion gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol annibynnol, gan gynnwys ein Taith Fferm a'r Llwybr Corachod a Thylwyth Teg hudolus. Mae angen cadw eich lle ymlaen llaw.  Bydd pecynnau arwain ar gael am y Daith Fferm, yn ogystal â thaflenni gweithgaredd a phensiliau ar gyfer y ddau weithgaredd i bob plentyn sy'n cymryd rhan.   

 

  • Taith Fferm

    Mae ein Taith Fferm arbennig yn weithgaredd dysgu annibynnol gwych i blant a fydd yn tywys eich rŵp o amgylch y fferm wrth ddysgu am anifeiliaid a'r bywyd gwyllt lleol. 

  • Taith Tylwyth Teg a Chorachod

    Mae ein taith Thylwyth Teg a Chorachod ar agor drwy gydol y flwyddyn ac mae’n weithgaredd hwyl i blant iau.  Mae 25 o Dylwyth Teg a Chorachod yn cuddio ar hyd ein llwybr coetir, sy’n dod i ben ger ein pwll bywyd gwyllt.

 

Cyfnodau diddorol y flwyddyn 

  • Gwylio adar – Ion/Chwef/Maw

  • Wŷn – Maw/Ebr/Mai

  • Grifftoedd Brogaod/Brogaod – Hyd/Tach

  • Gweithgareddau anifeiliaid – Gwyliau’r ysgol a phenwythnosau 

  • Ar y Fferm heddiw – Gwyliwch staff anifeiliaid wrthi’n cyflawni eu tasgau dyddiol gyda’r anifeiliaid - Penwythnosau 

 

  • Llogi barbeciw a’r tŷ bynciau - Gallwch logi barbeciw a gallwch chi a’ch grŵp aros yn ein tŷ bynciau 23 gwely.

  • Caffi - Mae’r caffi ar y safle ar agor bron bob dydd rhwng 9am a 4pm (yn dibynnu ar y tywydd) ac yn gweini bwyd cynnes ac oer, diodydd, cacennau, lolipops a hufen iâ. Rhowch wybod inni ymlaen llaw os hoffai'ch grŵp brynu bwyd fel y gallwn baratoi eich archeb ymlaen llaw er mwyn osgoi unrhyw oedi. 

  • Cysgodfa Bicnic - Gall eich grŵp ddefnyddio’r gysgodfa bicnic a’r man storio bagiau diogel.
  • Parcio - Mae parcio ar gael i coetsis a bysiau mini ar gais.

  • Toiledau - Mae toiledau ar gael ar y safle, gan gynnwys toiledau i'r anabl a chyda chyfleusterau newid babanod.

 

Trefnwch Ymweliad

Rhaid i bob grŵp archebu ymlaen llaw.


Meithrinfa, Ysgol neu Goleg – Codir tâl o £60 am ddefnydd unigryw o'r gysgodfa bicnic, man storio diogel, parcio a phecyn arwain ynghyd â thaflenni gweithgaredd a defnydd o bensiliau i blant; codir £2 yn ychwanegol ar bob plentyn – mae staff a rhieni/gwarchodwyr yn cael mynediad am ddim.


Grwpiau Oedolion – Ar gyfer Grwpiau Dysgu i Oedolion sy’n ymweld heb unrhyw weithgareddau na chyfleusterau ychwanegol, codir £2 y pen.


Mae’n rhaid archebu ymlaen llaw am resymau iechyd a diogelwch. 


Cysylltwch â ni os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu i archebu. 

 

ameliatrust.org.uk