Cost of Living Support Icon

Parc Gwledig Porthceri

Mae Parc Gwledig Porthceri yn cynnwys 220 acer o goetir, dolydd, nentydd a llynnoedd mewn dyffryn dan gysgod yn arwain at draeth cerrig a chlogwyni anhygoel.

 Porthkerry-viaduct with school trip logo

Grwpiau OedranBlynyddoedd Cynnar, Cyfnod Allweddol 1, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3, Cyfnod Allweddol 4, Cynod Allweddol 5 

 

Categorïau

Parks and Greenspace IconCoast Icon

Testunau

 Knowledge IconCreative Development IconPersonal Social Development IconPhysical Development Icon

 

Rhaglen Addysg ac Amgylcheddol

Mae’r holl sesiynau a arweinir gan geidwaid yn gysylltiedig â phrojectau’r Cwricwlwm Cenedlaethol a Cornerstone, mae’r rhan fwyaf yn addas ar gyfer disgyblion oed Cynradd a CA3.  Bydd pob sesiwn yn para awr ac mae modd eu teilwra i fod yn addas i grwpiau o unrhyw oedran neu allu. 

 

Porthordy’r Goedwig yw’r ganolfan ar gyfer pob grwp dysgu, ac mae’n lle da i adael bagiau, i gael cinio neu i’w ddefnyddio fel ardal dysgu dan do.


Mae’r parc yn cynnig ystod o weithgareddau i ysgolion, gan gynnwys sesiynau a arweinir gan geidwaid, sesiynau hunan-arwain/a arweinir gan athrawon, a theithiau a sgyrsiau a arweinir gan y ceidwaid.

 

Mea gan y parc hefyd app Realiti Estynedig - Porthkerry AR - a fydd yn eich galluogi i ddod â rhannau o’r parc yn fyw wrth ei grwydro. Cewch gwrdd ag ychydig o gymeriadau hanesyddol y parc, casglu planhigion ac anifeiliaid rhithiol ar hyd y ffordd wrth i chi chwilio am y rhai go iawn, a chasglu mythau a chwedlau o amgylch y parc gyda’r daith stori. 

 

  • Caffi

  • Ardal chwarae antur

  • Safleoedd picnic ac ardaloedd barbeciw

  • Dipiwch eich dwylo a darganfyddwch y creaduriaid campus sy’n byw yn ein pyllau dwr croyw a’n nentydd.

 

Apiau a Gweithgareddau    Teithiau Cerdded, Sgyrsiau ac Addysg

 

Trefnwch Ymweliad 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Alex Edwards

  • 01446 733589

 

Parc Gwledig Porthceri