Ymweliadau Addysgol 
Yn ddiweddar mae’r safle, sy’n mesur 0.2 acer, wedi cael ei drawsffurfio gan dîm o wirfoddolwyr ymroddgar yn ardd ffiseg, y gyntaf yng Nghymru.  Mae gardd ffiseg yn fath o ardd berlysiau gyda phlanhigion meddyginiaethol, ac mae Gardd Ffiseg Y Bont-faen yn enghraifft wych o ddyluniad sydd â deuddeg o welyau meddyginiaethol. 
 
Mae’r holl blanhigion yn rhai a fu’n tyfu ym Mhrydain cyn 1800 ac maent wedi’u plannu mewn gwelyau sy’n cynrychioli rhannau gwahanol o’r corff neu afiechydon y gall planhigion meddyginiaethol eu gwella. Er enghraifft mae gwelyau ar gyfer trin y galon a’r gwaed, yr ysgyfaint, yr arenau, yr iau, y croen, ewinedd a gwallt, yr esgyrn a’r llygaid.   
 
Mae hefyd ychydig o welyau sydd wedi’u plannu gyda phlanhigion ar gyfer coginio, a rhai i liwio ffabrig. 
 
Mae llawer o feddyginiaeth “llysieuol” wedi bod ar waith ers cannoedd o flynyddoedd, ac hyd yn oed heddiw mae hyd at 80% o boblogaeth y byd yn dibynnu ar feddyginiaeth lysieuol.
 
Gallwch ddysgu am y mythau, yr hanesion a’r chwedlau hudol sy’n gysylltiedig â’r planhigion.
Un o’r dyddiau gorau i ymweld â’r ardd yw dydd Iau pan fydd y gwirfoddolwyr wrthi’n plannu, yn chwynnu, yn torri ac yn sicrhau bod yr ardd ar ei gorau.  Mae croeso i ymwelwyr wastad, ac mae’r gwirfoddolwyr yn fodlon ateb cwestiynau a thrafod planhigion penodol a’u defnydd. 
 
Byddai’r gweithgareddau yn ystod ymweliadau ysgol yn cael eu harwain gan staff ond gyda thaflenni gweithgareddau a gwirfoddolwyr ar gael i egluro.  Oherwydd natur yr ardd, byddai’r dysgu’n digwydd y tu allan, ond mae dau dŷ haf all gynnig ychydig o gysgod.
 
Cysylltwch Pamela Haines: