Cost of Living Support Icon

Fferm Organig Slade

Mae Fferm Slade yn fferm organig âr 650 acer gyda da byw.  Mae’n lle arbennig yn o bentref Saint-y-brid lawr at y traeth yn Southerndown lle mae ein ffrindiau yn yr arfordir treftadaeth yn gweithio. 

 Slade-Farm-school-trip

Grwpiau Oedran: Blynyddoedd Cynnar, Cyfnod Allweddol 1, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3, Cyfnod Allweddol 4, Cynod Allweddol 5 

 

Categorïau

Farming and Food Icon

Testunau

Knowledge IconCreative Development IconLanguage and Literature IconPersonal Social Development Icon

 

Ymweliadau Addysgol 

Teithiau o’r amgylchedd unigryw hwn ar ein profiad tractor a threlar penigamp. Mae'r daith gyffredinol yn cyflwyno'r fferm ond gallwch hefyd edrych ar elfennau penodol fel bioamrywiaeth bywyd anifeiliaid a phlanhigion neu'r cylch bywyd wrth gynhyrchu bwyd (anifeiliaid a phlanhigion); fel arall gallant gynnig cipolwg ar gynllunio a gweithredu ochr fusnes ffermio.  

 

Mae’r beudai’n lle i gynnal darlithoedd a chyflwyniadau gyda lle i eistedd ar fyrnau gwellt, mae gan y beudai drydan, sgriniau PowerPoint symudol a siartiau fflip. 

 

  • Gallu sefydlu ardaloedd ar gyfer picnics ar gais.

  • Cynhyrchu llysiau a ffrwythau gyda gardd farchnad sy'n tyfu cnydau organig tymhorol.

  • Digon o le i barcio bws mawr a hyd at 10-25 o geir yn dibynnu ar y tywydd. 

  • Da byw’n cynnwys 80 o Foch Hen Smotiau Caerloyw, brîd prin iawn, 700 o ddefaid Romney, Texel a Suffolk pedigrî yr ydym yn eu bridio a 120 o wartheg Aberdeen Angus a Henffordd. 

  • Yn fferm ecolegol a bioamrywiol nodedig gyda chynefinoedd unigryw ar gyfer planhigion, pryfaid, adar a mamolion.

  • Tyfu ceirch ar gyfer uwd organig, gwenith a sbelt ar gyfer blawd organig, a ffa a haidd organig i fwydo’r anifeiliaid yn ystod misoedd y gaeaf. 

  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ardal weirdir

  • Cyfleusterau toiled hygyrch i'r anabl.

 

 

Trefnwch Ymweliad

Cysylltwch â Graeme Wilson i gael rhagor o wybodaeth.

  • 01656 880799

 

Fferm Organig Slade