Cost of Living Support Icon

Gerddi Dyffryn

Mae Gerddi Dyffryn yn enghraifft ardderchog o ddyluniad gerddi o’r Oes Edwardaidd. Gyda dros 55 acer, maent yn cynnwys casgliad hyfryd o ystafelloedd gardd gan gynnwys gardd rosod, gardd Pompeiaidd a nifer o byllau dŵr.

 Dyffryn-House

Grwpiau Oedran: Blynyddoedd Cynnar, Cyfnod Allweddol 1, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3, Cyfnod Allweddol 4, Cynod Allweddol 5

 

Categorïau

Heritage IconParks and Greenspace Icon

Testunau

Knowledge IconPersonal Social Development IconPhysical Development Icon

Ymweliadau Addysgol 

Mae gwelyau blodau tymhorol a lawnt croce yn amgylchynu’r lawnt mawr. Mae hefyd tŷ gwydr mawr, casgliad o gerfluniaeth a gardd goed sy’n cynnwys coed o bedwar ban byd.

 

Wedi’u dylunio gan y pensaer tirlunio enwog Thomas Mawson yn 1906, mae’r gerddi’n rhan o weledigaeth 20ed ganrif y masnachwr glo John Cory, a’i fab Reginald.

 

Yn y gerddi mae Tŷ Dyffryn, sef plasty crand o oes Fictoria, sy’n edrych dros brif rannau’r  gerddi. Mae rhannau o’r lloriau daear a chyntaf wedi’u hadfer a does dim dodrefn ynddynt.

 

Mae ardal chwarae wyllt sydd tua hanner acer o fewn yr ardd goed sy’n galluogi plant i gael lle a rhyddid i chwarae ynghanol natur.

Trefnwch Ymweliad

Cysylltwch gyda Deborah Kerslake 

  • 02920 593328

 

Gerddi Dyffryn