Cost of Living Support Icon

Arfordir Treftadaeth Morgannwg

Mae’r Ganolfan Arfordir Treftadaeth yn cynnig cyfleoedd dysgu awyr agored ac addysgol mewn amgylchedd arbenigol i grwpiau ysgolion, colegau a chymunedol gyda’i gweithgareddau helaeth a arweinir gan geidwaid.

 Heritage-coast-school-trip

Grwpiau Oedran: Blynyddoedd Cynnar, Cyfnod Allweddol 1, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3, Cyfnod Allweddol 4, Cyfnod Allweddol 5

 

Categorïau

Heritage IconParks and Greenspace IconCoast IconSports and Adventure Icon

Testunau

Knowledge IconCreative Development IconLanguage and Literature IconPersonal Social Development IconPhysical Development Icon

 

Rhaglen Addysg Amgylcheddol

  • Clogwyni Triassic a Liassic, llannau creigiog a llwyfannau wedi’u torri gan donnau a thraethau tywodlyd Ystod eang o flodau a phlanhigion, gan ei gwneud yn un o’r ardaloedd bioamrywiaeth a phrydferthwch naturiol cyfoethocaf yn ne Cymru

  • Glaswelltir calchaidd sy’n llawn bywyd planhigion yn benodol i bridd alcalinaidd megis y Cylchlys Clwstwr a’r Maenhad Gwyrddlas.
  • Coetir gyda llawer o flodau yn y gwanwyn ynghyd ag amrywiaeth o goed sy’n gartref i foch daear, llwynogod, gwiwerod a llawer o rywogaethau o adar.
  • Llawer o fywyd morol sydd wedi addasu i amodau rhynglanw caled ein harfordiroedd agored megis Anemonau, Cragenni Llongau, Gwichiaid a llawer mwy. Yn aml mae gennym greaduriaid môr megis corgimychiaid a physgod yn sownd yn ein pyllau glan môr ger y llannau. Mae gan Fae Dwnrhefn ardal fawr yn llawn Creigresi Llyngyr Ddiliau
  • Mae llawer o ffosilau ar hyd y glannau, sy’n dystiolaeth o hanes y Ddaear o’r calch a ffurfiwyd yn y Cyfnod Carbonifferaidd (350 miliwn blynedd yn ôl) i Lias Glas y cyfnod Liassic (180 miliwn o flynyddoedd yn ôl).

Rydym yn cynnig ystod o gynefinoedd a bywyd gwyllt amrywiol i’w harchwilio; traethau, coetiroedd, glaswelltiroedd, clogwyni a gerddi. Mae hyn yn ei wneud yn fan delfrydol i ddysgu am ein byd naturiol ac yn gysylltiedig â Chwricwlwm Cenedlaethol Cymru a’r prif bynciau.

 

  • Meinciau picnic

  • Siop 

  • Gwybodaeth i Dwristiaid

  • Parcio i Bobl Anabl

  • Mae Ystad Parc Dwnrhefn yn dyddio'n ôl i'r 17eg Ganrif. Mae'n ymestyn dros 56 erw ar hyd clogwyni Southerndown. Mae’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

  • Toiledau Cyhoeddus

 

Trefnwch Ymweliad

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan yr Arfordir Treftadaeth:

  • 01656 880157

 

Teithiau Cerdded, Sgyrsiau ac Addysg