Cost of Living Support Icon

Castell Ffwl-y-mwn

Mae Castell Ffwl-y-mwn wedi'i osod mewn 340 erw o goetir sy'n cwmpasu Castell Normanaidd rhestredig gradd 1 o'r 12fed ganrif.

 

Grwpiau Oedran: Blynyddoedd Cynnar, Cyfnod Allweddol 1, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3

 

Categorïau

Heritage IconParks and Greenspace IconOther Icon

Testunau

 Knowledge IconLanguage and Literature IconPersonal Social Development Icon

 

Profiad Addysgol Hanesyddol

Sgyrsiau a theithiau hanesyddol dyddiol y tu mewn i'r castell ac o amgylch y pentref canoloesol lle gall plant ryngweithio gydag anifeiliaid yn y fferm a dysgu am hanes y cyfnod canoloesol hwn a sut y byddai fferm wedi edrych, ac arogleuo a sut deimlad fyddai bod yno.  Gall y plant ddysgu am sut y tyfodd y fferm a gwneud defnydd o'i llysiau, ei da byw ei hun, a sut ddiwrnod fyddai diwrnod nodweddiadol yn yr oes hon.

 

Bydd plant yn ganolog i brofiad dysgu rhyngweithiol sy'n defnyddio pob synnwyr i greu effaith gwirioneddol ar eu gallu i gofio digwyddiadau allweddol yn yllinell amser hanes. 

 

Ail-greu byw ac adrodd straeon gan Ross O' Hennessy, a fu gynt yn chwarae rhan 'y Prif Ynad' yn y pentref canoloesol ym Mharc Gwledig Llynoedd Comeston.  Bydd Ross a'i dîm yn ennyn brwdfrydedd plant ac yn eu cynnwys yn y profiad llawn o fod yn rhan o fywyd yn y pentref canoloesol gan gynnwys dysgu sgiliau a ffeithiau diddorol am wneud bara a chreu canhwyllau cwyr.

 

  • Cyfleusterau caffi gyda seddau a mannau picnic.

  • Parcio i geir a bysus

  • Toiled dan do ac yn yr awyr agored

 

Trefnwch Ymweliad

Cysylltwch â'r tîm yn y castell i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad:

  • 01446 710206

 

Castell Ffwl-y-mwn

 

Rhys Williams, Pennaeth Gweithgareddau Addysgol yng Nghastell Fonmon Cyf.

Fonmon Castle,

Fonmon,

Vale of Glamorgan,

CF62 3ZN.