Cost of Living Support Icon

Eglwys Sant Cadog, Llancarfan

Ym mynwes dyffryn glas, mae Eglwys Sant Cadog yn ffynnu mewn pentref sy’n enwog am ei fynachlog ers y flwyddyn 650 OC.  

 St-Cadocs-School-trip

Grwpiau Oedran: Cyfnod Allweddol 1, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3, Cyfnod Allweddol 4, Cynod Allweddol 5

 

Categorïau

Heritage IconArts and Culture iconOther Icon

Testunau

Creative Development IconKnowledge IconLanguage and Literature IconPersonal Social Development Icon

 

Ymweliadau Addysgol 

Bydd disgyblion yn dotio at y straeon y tu cefn i’r trydydd llun yn unig (a'r gorau) o Sant Siôr a'r ddraig ar fur eglwys yng Nghymru

 

Caiff myfyrwyr archwilio a dynwared lliwiau a sgiliau artistiaid talentog y 15fed ganrif a hefyd fyfyrio trwy gyfrwng 'Beibl y tlodion' ar y muriau a gannwyd 'heb atgof ohono' yn ystod y Diwygiad Protestannaidd. 

 

Fel rheol, cynhelir y sesiynau yn Saesneg, ond mae cyfieithiad ar y pryd ar gael, a gellid gwneud cais am dywysydd Cymraeg.  

 

Mae tri llawlyfr hefyd yn cynnig hanesion y paentiadau a’u cefndir ar ffurf hygyrch, sy’n boblogaidd ymhlith ymwelwyr ac sydd hefyd yn addysgol iawn os darllenir ynghynt.  A bydd ein tywyswyr, sy’n ymwybodol o’r cwricwlwm a’r potensial ar gyfer HMS, yn cyflwyno o safbwynt ystod o wahanol bynciau, y gellir trafod o flaen llaw, a thargedu anghenion pob oedran a Chyfnod Allweddol.    

 

  • Mae gan yr eglwys ddwy-eil hon sgrin grog hynafol ac ail-wneud unigryw, wedi’i gadw gyda'i ddeilen aur wreiddiol o tua 1510 â phigment. Yma hefyd mae llawer o arteffactau artiffisial wedi'u cerfio, gan gynnwys croes garreg 'Geltaidd' sy'n eistedd ochr yn ochr â chofeb a naddwyd gan Iolo Morganwg yn ei rôl fel saer maen.
  • Mae’r pentref diddorol ei hun yn cynnwys rhyd, olwynion dŵr a hen ffynhonnau yn ogystal â llwybrau hanesyddol gwerth chweil.
  • Parcio
  • Toiledau cyfagos wrth neuadd y pentref

 

 

Trefnwch Ymweliad

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â:

  • 01446 781383

 

Eglwys Sant Cadog