Cost of Living Support Icon

Gadael Gofal yr Awdurdod Lleol

Does dim dwywaith bod gadael gofal yn un o’r cyfnodau anoddaf ym mywyd person ifanc. Mae’n hanfodol felly eu bod nhw’n cael eu paratoi’n drylwyr i wynebu’r her.

 

Er mwyn sicrhau bod y broses yn gwbl glir i’r cynhalwyr a’r bobl ifanc mae’n bwysig cynllunio’r llwybr tuag at annibyniaeth yn drylwyr fel bod pawb yn gwybod sut a phryd y bydd pethau’n digwydd a phwy fydd yn cyfrannu at y gwaith.

 

Gyda hyn mewn golwg mae’r adran wedi datblygu ei Wasanaeth Gadael Gofal. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys tîm ymroddedig sy’n gweithio i baratoi pobl ifanc ar gyfer gadael gofal a’u cynnal unwaith y byddant yn byw’n annibynnol.

 

Mae’r gwasanaeth yn atebol i wahanol ddeddfwriaethau sy’n amlinellu’r cyfrifoldebau sydd arnom mewn cysylltiad â phlant sy’n derbyn gofal. Mae yna nifer o themâu allweddol yn Neddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 a ddylai fod yn sail i’r gwaith yr ydym yn ei wneud gyda phobl ifanc. Yn eu plith mae:

 

  • Gofalu am bobl ifanc nes eu bod yn barod i adael gofalac wedi paratoi i wneud hynny
  • Sicrhau bod darpariaeth wrth gefn er mwyn cefnogi pobl sy’n gadael gofal mewn achos o argyfwng
  • Hysbysu pobl ifanc sy’n gadael gofal o’r gwasanaethau sydd ar gael – gan gynnwys rhoddi canllawiau yn ymwneud â gadael gofal y mae’n hawdd cael gafael arnynt
  • Cynnwys pobl ifanc yn yr holl drefniadau asesu, cynllunio, adolygu a gwneud penderfyniadau ar gyfer gadael gofal
  • Sicrhau bod gan bobl ifanc sy’n gadael gofal fynediad at amrywiaeth o lety a bod ganddynt y cymorth a’r sgiliau i gynnal eu hunain yn eu llety

 

Yn amlwg, mae buddsoddiad enfawr yn cael ei wneud i sicrhau y cynigir gofal o safon uchel i bobl ifanc wrth iddynt dderbyn gofal gan yr adran. Ein nod pennaf yw sicrhau y cynigir safon uchel barhaus o gymorth i bobl ifanc wrth iddynt adael gofal. Drwy hynny, bydd y cyfnod pontio tuag at annibyniaeth yn hawdd ei reoli ac yn brofiad cadarnhaol.  

 

  • Deddf Plant 2000

    Ynghlwm wrth Ddeddf Plant [Gadael Gofal] 2000, cyflwynwyd telerau newydd sy’n nodi categorïau gwahanol o bobl ifanc ac sy’n amlygu gofynion yr awdurdod lleol. Yn gryno, y rhai mwyaf arwyddocaol fydd:

     

    Plant Cymwys yw plant rhwng 16 a 17 oed, a fu’n derbyn gofal am o leiaf 13 wythnos ers iddynt droi’n 14 oed ac sy’n dal i dderbyn gofal. Y rhain fydd y bobl ifanc a gaiff eu maethu, neu a fydd yn derbyn gofal preswyl a bydd gofyn i ni asesu a chynllunio ar gyfer eu hannibyniaeth yn y pen draw. Gelwir y cynllun yn Gynllun Llwybr a dylai fod ar waith heb fod yn hwyrach na 3 mis ar ôl i’r person ifanc droi’n 16 oed.

     

    Bydd y plant perthnasol rhwng 16 ac 17 oed ac wedi derbyn gofal am 13 wythnos ers iddynt droi'n 14 oed. Hefyd, byddant wedi gadael gofal. 

     

    Y plant perthnasol gynt yw’r rhai hynny rhwng 18 a 21 oed sydd naill ai wedi bod yn blant cymwys neu berthnasol (neu’r ddau). Os yw’r awdurdod yn helpu’r person ifanc gydag addysg neu hyfforddiant yn 21 oed, bydd ef/hi yn parhau i fod yn blentyn perthnasol gynt nes y daw’r rhaglen addysg neu hyfforddiant gytunedig i ben.

     

    Mae plant a phobl ifanc cymwys dros 16 oed yn golygu pobl ifanc o dan 21 oed (24 oed os ydynt mewn addysg neu hyfforddiant) nad ydynt yn derbyn gofal nac yn cael eu lletya mewn amrywiaeth o leoliadau eraill, nac yn cael eu maethu’n breifat, ar ôl troi'n 16 oed.

  • Cynllun Llwybr
     

    Mae hwn yn amlinellu sut y byddwn ni'n bodloni anghenion person ifanc ar ôl iddo adael gofal a sicrhau yr eir i'r afael â’r agweddau pwysig ar fywyd y person ifanc:

    • Iechyd a datblygu 
    • Addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth
    • Cymorth ar gael gan deulu ac eraill
    • Anghenion ariannol
    • Lefel y sgiliau o ran bod yn barod ar gyfer annibyniaeth 
    • Anghenion yr unigolyn ifanc o ran gofal, cymorth a llety

     

    Cynhelir y cynllun nes bydd y person ifanc yn 21 oed o leiaf a chaiff ei adolygu bob 6 mis. Gellir ymestyn hyn hyd at 24 oed os yw’r unigolyn ifanc yn dilyn addysg bellach.

     

    Rydym bob amser yn bwriadu bod yn rhan o'r gwaith cynllunio ar gyfer gadael gofal pan fo person ifanc yn troi’n 15 oed a 6 mis.  Bydd Gweithiwr Cymdeithasol yr unigolyn ifanc yn gwahodd gweithiwr Gadael Gofal i gymryd rhan mewn adolygiad statudol er mwyn cwrdd â’r unigolyn ifanc a rhoi gwybodaeth am adael gofal.

     

    Yn y cyfarfod adolygiad hwn, os deuir i’r penderfyniad y bydd yr unigolyn ifanc yn byw yn annibynnol ar ôl gadael gofal, caiff Ymgynghorydd Personol ei benodi o’r tîm i gymryd rhan. Bydd yn dechrau’r gwaith o baratoi’r Cynllun Llwybr gyda’r unigolyn ifanc ac yn ei helpu drwy ei arwain drwy’r broses o adael gofal. Bydd yn cyflawni swyddogaeth gydgysylltu allweddol o ran addysg, hyfforddiant a chyflogaeth a bydd yn gallu cynghori’r unigolyn ynglŷn â dewisiadau llety. 

     

    Bydd y Cynghorydd yn parhau i gymryd rhan yn y tymor hir a bydd yn sicr yn ffigwr allweddol wrth helpu’r person ifanc i baratoi a chynllunio ar gyfer ei ddyfodol.  Bydd yr Ymgynghorydd yn parhau i fod yn gyfrifol ar ôl i’r person ifanc adael gofal a bydd yn parhau i fod yn rhan cyhyd ag y ceir angen asesedig. Ein bwriad blaenllaw yw sicrhau bod unrhyw newidiadau yn hysbys cyn gynted â phosibl ac y cânt eu rheoli mewn modd sensitif a chadarnhaol.

     

    Bellach mae’n ddyletswydd ar adrannau i gadw mewn cysylltiad â phobl ifanc nes eu bod yn 21 oed, sy’n cynnwys cymryd camau cyfrifol i ailsefydlu cysylltiad os caiff ei golli.  Yn ogystal â hynny, bydd y rhai hynny sy’n dilyn addysg bellach/hyfforddiant yn parhau i gael cysylltiad nes eu bod yn 24 oed. 

     

    Cyllid

    Un o’r agweddau mwyaf arwyddocaol o’r Ddeddf newydd hon yw dileu gallu Plant Perthnasol i hawlio budd-daliadau (pobl ifanc 16 ac 17 oed sydd wedi bod yn derbyn gofal am o leiaf 13 wythnos ers iddynt droi’n 14 oed ac sydd wedi gadael gofal). Mae hyn wedi’i gynllunio i gael gwared ar y cymhelliad canfyddedig sef bod awdurdodau lleol yn “annog” pobl ifanc i adael gofal yn 16 oed, ac felly’n rhoi’r cyfrifoldeb ariannol i’r asiantaethau sy’n darparu budd-daliadau’r wladwriaeth.

     

    Bellach, ni chaiff y bobl ifanc hyn (gyda rhai eithriadau) hawlio Budd-dal Tai, Lwfans Ceisio Gwaith na Chymhorthdal Incwm. Er y rhoddir rhywfaint o hyblygrwydd i’r awdurdod lleol wrth ddehongli ei gyfrifoldeb ariannol, dylai’r bobl ifanc hyn dderbyn lefel o gymorth nad yw’n llai na’r hyn y byddent wedi bod yn gymwys i’w gael pe byddent wedi gallu hawlio budd-daliadau. 

  • Fy Nghynllunydd 
    Mae Fy Nghynllunydd wedi’i gynhyrchu gan Gomisiynydd Plant Cymru ac mae wedi’i gynllunio i roi help a chyngor i bobl ifanc sy’n gadael gofal yr awdurdod lleol. 

     

    Fy Nghynllunydd

     

 

Rheolwr Tîm Pymtheg Oed a Hŷn

Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc,

Swyddfa’r Dociau

Heol yr Isffordd

Y Barri

CF63 4RT

 

  • 01446 725202