Cost of Living Support Icon

Gerddi a Choedfa Dyffryn 

Mae Gerddi a Choedfa Dyffryn yn perthyn i Gyngor Bro Morgannwg ac maent yn cael eu rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Gerddi Dyffryn, Sain Niclas, Bro Morgannwg CF5 6SU

 Dyffryn-House-and-Gardens

Mae Gerddi Dyffryn wedi eu lleoli yng nghalon cefn gwlad Bro Morgannwg, chwe milltir i’r gorllewin o ganol Caerdydd, ac maent yn enghraifft eithriadol o ddyluniad gerddi ffurfiol y cyfnod Edwardaidd. Mae Gerddi Dyffryn yn ardd gofrestredig Gradd I, sy’n cynnwys casgliad trawiadol o ystafelloedd gardd, lawntiau ffurfiol, gwelyau planhigion tymhorol, a llawer mwy. 

  

Mae’r gerddi hefyd yn cynnwys coedfa sylweddol ag ynddi goed o bedwar ban byd.

 

Adeiladwyd y gerddi yn 1893 a dyma le saif Tŷ Dyffryn, a agorwyd i’r cyhoedd yn 2013 am y tro cyntaf ers ugain mlynedd yn dilyn adferiad gwerth miliynau o bunnoedd.

 

Gwefan Gerddi Dyffryn