Cost of Living Support Icon
​

Parc Romilly

Romilly Park Road, Y Barri, CF62 6RN

 

Gweld Parc Romilly ar fap 

   Romilly Park panaroma

 

Mae Parc Romilly yn barc rhestredig Gradd II CADW sy'n cynnwys gwyrdd bowlio, cyrtiau tenis, ardal chwarae plant, casgliad sylweddol o goed aeddfed, a mannau agored helaeth ar gyfer hamdden. Mae'r parc yn cynnig diddordeb tymhorol trwy ei ganopi coed sefydledig, ei flodau gwanwyn, cysgod yr haf, lliw yr hydref, a chymeriad tirwedd hanesyddol.
 
Wedi'i adeiladu'n wreiddiol ar dir sy'n perthyn i deulu Romilly ym 1898 a'i gwblhau'n llawn ym 1911, mae'r parc yn cadw llawer o'i gynllun gwreiddiol, ei fframwaith a'i nodweddion hanesyddol. Yn 1920, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru o fewn y parc ger Cylch yr Orsedd, sy'n parhau i fod yn dirnod amlwg heddiw.

 

 

Gwybodaeth gyffredinol

Oriau agor: 8.00am tan y gwyll

Uchafbwyntiau: ardal chwarae plant, ardal picnic, cyrtiau tenis (yn  rhad ac am ddim i'w defnyddio) a llain bowlio

Tai bach: ar agor dim ond yn ystod gwyliau'r haf

  
  • Caffis gerllaw
  • Parc CADW gradd II
  • Bwyty 5 munud i ffwrdd
  • Caniateir cŵn
  • Arddangosiadau blodau tymhorol 
  • Toiledau
  • Gorsaf trên y Barri
  • Ardal goediog 

 

Cyfarwyddiadau a Thrafnidiaeth


Car: M4 at Gyffordd 33, A4232 i Groes Cwrlwys, A4050 i'r Barri.Dilynwch yr arwyddion twristiaeth frown ar gyfer Ynys y Barri, yna "The Knap".


Bws: Rhif 95 a 96. Stop agosaf Hotel Barri, Broad Street - 500m o'r parc. Cysylltwch â Traveline Cymru ar 0871 200 22 33 ar gyfer llwybrau lleol. 

 

Trên: Mae'r orsaf agosaf yw Gorsaf Y Barri, 500m o Barc Romilly. Ffoniwch 08457 484950 i gael gwybodaeth rheilffyrdd

 

Traveline Cymru