Cost of Living Support Icon

Parc Victoria

Parc hanesyddol braf yn Nhregatwg yn nwyrain Y Barri.

victoria_park-bandstand09

 

Mae yno gyfuniad hyfryd o atyniadau traddodiadol chasgliad nodedig o blanhigion diddorol o fewn ei 6.5 erw.

 

Mae Parc Victoria yn Parc Fanner Werdd 

 

Gofod Room in the Park

Gofod ar gyfer arddangosfeydd a lleoliad ar gyfer gweithgareddau cymunedol ydy Room in the Park. Mae'n agor bron bob dydd trwy gydol y flwyddyn o 10:00-16:00.

 

Gall gael ei glustnodi gan unrhyw un sy'n dymuno cynnal digwyddiad ddim er elw. Defnyddir y lleoliad ar hyn o bryd ar gyfer digwyddiadau fel clwb darllen, dosbarthiadau celf ac arddangosfeydd.

 

Mae manylion pellach ar gael gan Jon Greatrex, Rheolydd Parc Victoria:

 

victoria-park-map

Dod o hyd i'r parc

Yn y car: M4 i Gyffordd 33, A4232 i Groes Cyrlwys, A4050 i’r Barri.

 

A4231 i Ddociau’r Barri.  Ar draws y cylchfan, troi i’r dde i waelod y pant i Coldbrook Road East, fforch i’r chwith i fyny Church Road i ben y rhiw. 

 

I’r chwith, i’r chwith eto, ac mae prif fynedfa'r parc ar y dde tua 150m ar hyd Sea View Terrace.

 

Ar y bws

Yr arosfa agosaf ydy The Royal, Barry Road – 150m o’r parc. Cysylltwch â Traveline Cymru ar 0871 200 22 33 am lwybrau lleol.

 

Ar y trên

Gorsaf Cadoxton, 150m o’r parc.

Ffoniwch 08457 484 950 am wybodaeth bellach.

 

Oriau agor: 08:00 tan y gwyll (mae amserlen ar hysbysfwrdd y parc)

 

Gweld Parc Victoria ar fap