Cost of Living Support Icon

Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston a Phentref Canoloesol

Mae Parc Gwledig a Phentref Canoloesol Llynnoedd Cosmeston yn cynnwys ystod o gynefinoedd gyda dros 100 acer o ddŵr a thir, a rhai o’r ardaloedd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn amddiffyn y cynefinoedd anifeiliaid a phlanhigion prin ac amrywiol.  

 

Pond-dipping-at-Cosmeston

Grwpiau Oedran: Blynyddoedd Cynnar, Cyfnod Allweddol 1, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3, Cyfnod Allweddol 4 

 

Categorïau

Heritage Icon Parks and Greenspace IconOther Icon

Testunau

Knowledge IconCreative Development IconLanguage and Literature IconPersonal Social Development IconPhysical Development Icon

 

Rhaglen Addysg Amgylcheddol

Mae’r rhaglen addysg amgylcheddol yn rhoi cyfle i blant gymryd rhan a gwerthfawrogi eu hamgylchiadau naturiol wrth ddysgu am yr amgylchedd. Caiff y gweithgareddau eu harwain gan staff gwasanaeth y ceidwaid ac os oes testunau/meysydd penodol yr hoffech i’r ceidwad eu trafod ar y diwrnod, byddant yn fodlon iawn i’ch helpu. Bydd y gweithgareddau’n para awr, gweler isod am restr o weithgareddau. 

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Karen Child / Pauline Hadgraft:

  • 02920 701678

Pentref Canoloesol Cosmeston

Yn ystod datblygiad Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston yn 1978, gwnaeth gwaith cloddio ddatgelu gweddillion cymuned oedd dros 600 oed, ac felly dechreuodd project archeolegol i adfer pentref Cosmeston. Mae’r Pentref Canoloesol heddiw yn hollol hygyrch i ymwelwyr ac mae wedi’i osod yn y flwyddyn 1350. Roedd yn amser diddorol iawn mewn hanes gan fod y pentref wedi cael ei drawsnewid gan y teulu de Caversham.  Mae’r Pentref Canoloesol yn addas i gadeiriau olwyn ac mae ar agor 7 diwrnod yr wythnos. 

 

 

  • Caffi a pharlwr hufen iâ

  • Ardal maes chwarae antur

  • Maes parcio mawr gyda lleoedd parcio pwrpasol i fysus a pharcio i'r anabl

  • Toiledau