Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

Y Canfas Blynyddol 2022

Ymarfer cadarnhau i gynnal a diweddaru’r Gofrestr Etholiadol yw’r Canfasiad Blynyddol.

 

Yn rhan o’r Canfasiad blynyddol mae angen i Adran y Gofrestr Etholiadol gysylltu â phob cyfeiriad preswyl ym Mro Morgannwg i gadarnhau a yw’r wybodaeth sydd gennym ar y Gofrestr Etholiadol yn gyflawn ac yn gywir. 

 

Mae fframwaith cyfreithiol sy’n nodi gofynion statudol y Canfasiad blynyddol ac fel Awdurdod Lleol mae’n rhaid i ni ofyn am y wybodaeth hon.  Caiff proses y Canfasiad ei threfnu a’i chynnal gan y Cyngor, ond caiff y Cyngor ei fonitro’n agos gan y Comisiwn Etholiadol.

 

Mewn blynyddoedd blaenorol, byddai Meddiannydd yr aelwyd fod wedi derbyn Ffurflen Ymholiad Aelwyd (FfYA) A3 binc i’w llenwi naill ai ar-lein, trwy linell ffôn awtomataidd neu ar bapur i’w dychwelyd yn yr amlen barod.  

 

Mae’r broses hon wedi newid erbyn hyn ac mae pob Awdurdod Lleol wedi bod yn cydweithio â Swyddfa’r Cabinet i wneud y newidiadau i’r Canfasiad blynyddol. Byddem yn ddiolchgar pe gallech gydymffurfio â’r gofynion isod.  

 

 

Bydd eich Ffurflen Gyfathrebu Canfasio yn cael ei hanfon allan 25 Gorffennaf 2022 
a'r dyddiad cau i ymateb yw 22 Awst 2022 

DIM OND y ffurflen WERDD sydd angen i chi ymateb iddi os yw eich gwybodaeth yn anghywir neu os oes angen ei diweddaru. Fodd bynnag oes cewch ffurflen BINC mae’n RHAID i chi ymateb yn brydlon.

 

 

 

 

Darllenwch y ffurflen yn ofalus. Gwiriwch fod pob person, sydd dros 14 oed, ac yn byw gyda chi wedi’i restru ar y ffurflen. Os oes gwybodaeth ar goll gwnewch nodyn o hynny ar y ffurflen yn y blychau priodol.

 

Noder: Mae'n bwysig eich bod yn ymateb i'ch ffurflen holi am gyfathrebu cyn gynted â phosibl os oes gennych unrhyw newidiadau i'w gwneud.

 

Beth sy’n digwydd pan fyddaf yn dychwelyd fy Ffurflen Ymholiad Tŷ? Caiff eich ymateb ei wirio gan y Swyddfa Gofrestru Etholwyr.

 

Os ydych wedi nodi unrhyw addasiadau, ychwanegiadau neu unrhyw beth i’w ddileu, caiff y rhain eu diweddaru a’u prosesu. Bydd y Swyddfa Cofrestru Etholiadol yn ysgrifennu atoch os oes angen gweithredu ymhellach.

 

Os ydych wedi rhoi gwybod nad oes angen gwneud unrhyw newidiadau, yna bydd hyn hefyd yn cael ei gadarnhau ar y Gofrestr Etholiadol.

 

Os ydych wedi darparu enw person i ni nad yw wedi’i gofrestru ar hyn o bryd ar y Gofrestr Etholwyr yna byddwn yn anfon Gwahoddiad i Gofrestru atoch yn y post. Gall y person hwnnw hefyd lenwi Ffurflen Gwahoddiad i Gofrestru ar-lein.