Cost of Living Support Icon

Stryd Draenogod Penarth

Gallwn wneud bywydau draenogod ychydig yn haws drwy gael gwared ar y rhwystrau sydd o fewn ein rheolaeth – er enghraifft, drwy wneud tyllau yn ein ffensys a'n waliau gardd er mwyn iddynt allu mynd drwyddynt.

 

Mae draenogod yn teithio tua milltir bob nos drwy ein parciau a'n gerddi yn eu hymgais i ddod o hyd i fwyd a phartner. Os oes gennych ardd gaeedig, mae’n bosibl eich bod yn rhwystro eu cynlluniau.

 

Gwyddom erbyn hyn mai un o’r prif resymau pam mae niferoedd draenogod yn gostwng ym Mhrydain yw gan fod ein ffensys a waliau yn dod yn fwyfwy diogel, sy’n golygu bod ganddynt lai o dir i grwydro.

 Hedgehogs

Mae Partneriaeth Natur Leol y Fro a Chyngor Bro Morgannwg yn lansio cynllun peilot newydd i greu priffyrdd draenogod ar ystad tai preswyl ym Mhenarth. 

 

Bydd Stryd Draenogod Penarth yn helpu i gysylltu gerddi gan ganiatáu mwy o le i ddraenogod fridio, dod o hyd i fwyd a'u cadw oddi ar y ffyrdd. Bydd hyn yn rhan o’r ymgyrch Stryd Draenogod genedlaethol.

 

Fel rhan o'r prosiect, bydd preswylwyr yn gallu benthyg twnelau olrhain olion troed a thrapiau camera i fonitro a chofnodi presenoldeb draenogod.

  Hedgehog-street-map-welsh

Cofrestru ar gyfer y Cynllun Peilot

Bydd preswylwyr cymwys yn derbyn taflen drwy eu drws yn eu gwahodd i gymryd rhan yng nghynllun peilot Penarth.

 

Bydd preswylwyr sy'n ymuno â'r prosiect yn derbyn arwydd priffordd draenogod i'w roi uwchben eich twll draenogod. 

 

Os ydych chi wedi derbyn taflen, gallwch gofrestru diddordeb drwy ein ffurflen ar-lein. 

 

Cofrestrwch Ar-lein 

 

Hysbysiad Preifatrwydd.

Hedgehog-highway-sign

  

Ddim yn byw yn yr Ardal Beilot hon?

Ddim yn byw yn yr ardal hon ac yn dymuno cymryd rhan a lansio eich stryd draenogod eich hun yn eich cymdogaeth?

 

Cysylltwch â Chydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol, Emily Shaw:

 

Sut y gallwch helpu Draenogod

Mae sawl peth y gallwch eu gwneud os ydych am helpu i ddenu draenogod i'ch gardd:

 

  • Cysylltu eich gardd i greu 'Priffyrdd Draenogod'

    Mae draenogod yn crwydro rhwng 1-2 filltir bob nos yn ystod y tymor actif ac felly mae'n bwysig iawn eu bod yn gallu cael mynediad at ystod eang o erddi. Bydd torri tyllau 13 x 13cm (mae cryno ddisg yn dempled da) mewn waliau neu ffensys yn gadael draenogod drwodd ond bydd yn rhy fach i'r rhan fwyaf o anifeiliaid anwes.

  • Osgoi defnyddio pelenni gwlithod a chemegau eraill

    Mae defnyddio plaladdwyr, pryfladdwyr a pheledi gwlithod yn lleihau faint o fwyd sydd ar gael yn eich gardd i raddau helaeth. Mae'r rhain yn wenwynig a gallant ladd draenogod os ydynt yn llyncu gwlithod neu falwod sydd wedi marw o belenni gwlithod.

  • Gadael llain wyllt

    Gadewch i ardal o'ch gardd dyfu'n 'wyllt' a pheidiwch â'i thorri'n ôl yn ystod y gaeaf oherwydd gallai draenogod fod yn nythu yno. Bydd ardal wyllt hefyd yn darparu cynefin ar gyfer llawer o bryfed a chwilod sy'n berffaith ar gyfer gwledd draenogod.

  • Darparu cartref diogel

    Rhowch eich blwch draenogod rhywle â chysgod ac sy’n dawel fel nad yw'n achosi aflonyddwch. Gallwch osod dail sych neu wellt y tu mewn i'r blwch fel deunydd sarn addas.

  • Monitro eich draenogod

    Defnyddiwch dwneli draenogod neu drapiau camera i gadw golwg ar ymwelwyr prin â'ch gardd.

  • Gwneud eich pwll dŵr yn ddiogel

    Mae draenogod yn nofwyr medrus ond gwnewch yn siŵr bod gan byllau dŵr ochrau goleddfol bas, gyda digon o bwyntiau gadael addas fel cerrig, boncyffion neu wifren i'w defnyddio i ddringo allan.

  • Cadw golwg ar laswellt hir a boncyffion

    Cymerwch ofal wrth dorri glaswellt a thacluso lleiniau gwyllt gan eu bod yn safleoedd nythu delfrydol. Gwiriwch bentyrrau o bren yn drylwyr cyn cynnau unrhyw goelcerthi.

  • Cynnig bwyd a dŵr

    DIM bara a llaeth. Bwyd cathod neu gŵn yw’r gorau ynghyd â dŵr ffres.

 

Monitro Draenogod

Rydym yn annog holl drigolion y Fro i wneud cofnod o unrhyw ddraenogod maen nhw’n eu gweld.

Cyflwynwch eich cofnodion drwy un o'r tri opsiwn isod:

  1. Ewch i Ganolfan Cofnodi Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru, sef y Ganolfan Cofnodi Amgylcheddol Leol.

  2. Lawrlwythwch Ap LERCCymru (gweler y cyfarwyddiadau).

  3. Lawrlwythwch daflen arolwg draenogod o'r dudalen hon.

Rhannwch eich cofnodion gyda ni drwy e-bostio taflen yr arolwg i eshaw@valeofglamorgan.gov.uk neu ei rhannu ar Twitter gan ddefnyddio'r hashnod #ValeNature a'n tagio:

 

 

Hedgehog-street-logos-welsh