Cost of Living Support Icon

Open+

Mynediad i Lyfrgell y Barri ar ôl oriau cau arferol yn ystod yr wythnos

Os nad yw oriau agor arferol y llyfrgell yn cwrdd â'ch anghenion chi, mae ateb newydd ar gael, sy'n bosib oherwydd technoleg hunanwasanaeth. Mae Llyfrgell y Barri nawr ar agor tan 9pm bob dydd yn ystod yr wythnos drwy ddefnyddio ein system ‘Open +’. Mae hyn yn eich galluogi i gael mynediad i'r llyfrgell gyda'ch cerdyn llyfrgell a’ch rhif adnabod eich hun. Gallwch fenthyg llyfrau gan ddefnyddio'r ciosgau hunanwasanaeth, defnyddio'r cyfrifiaduron sydd â chysylltiad â’r rhyngrwyd, dod o hyd i le i astudio, neu hyd yn oed archebu lle ar gyfer cyfarfod grŵp. Yr unig wahaniaeth yw na fydd unrhyw staff o gwmpas i'ch cynorthwyo yn ystod yr oriau agor ychwanegol hyn.

 

Er mwyn defnyddio'r gwasanaeth rhaid i chi fod yn aelod o'r llyfrgell sy'n 18 oed neu'n hŷn a bydd angen i chi gofrestru o flaen llaw.  Rhowch gynnig arni, credwn y byddwch chi'n ei hoffi.

 

I ddarganfod mwy, holwch staff yn y llyfrgell (yn ystod oriau agor arferol) ac edrychwch drwy ein cwestiynau cyffredin.

open-plus-logo

 

Cwestiynau Cyffredin

  • Beth yw ‘Open+’?

    'Open+' yw'r system a ddefnyddir yn Llyfrgell y Barri o ran cael mynediad i'r llyfrgell a'i chyfleusterau ar ôl oriau cau arferol yn ystod yr wythnos. Mae ‘Open+’ yn gweithredu o 19:35 - 21:00 ar ddydd Llun ac o 5:35 - 21:00 ar ddydd Mawrth i ddydd Gwener. Yn ystod yr oriau hyn, ni fydd gan y llyfrgell aelodau staff yn bresennol.
  • Pwy all wneud cais am fynediad ‘Open+’?

    Dylai aelodau llyfrgell presennol neu newydd, 18 oed neu hŷn, siarad â staff yn y Barri a fydd yn gallu helpu. Rhaid i chi ddarparu cerdyn llyfrgell dilys, cerdyn adnabod a phrawf o'ch cyfeiriad wrth wneud cais am 'Open+'. Gallai cerdyn adnabod addas gynnwys Trwydded Yrru neu basbort a bil cartref.

  • A all plant a phobl ifanc ddefnyddio'r llyfrgell yn ystod oriau 'Open+'?

    Gall plant dan 18 oed gael mynediad i'r llyfrgell dim ond os byddant yng nghwmni rhiant neu warcheidwad cyfreithiol sy'n aelod cofrestredig o 'Open+'. Dylai'r rhiant neu'r gwarcheidwad roi gwybod i'r staff efallai y byddant yn dod â'u plant, wrth iddynt wneud eu cais eu hunain am aelodaeth ‘Open+’.
  • Sut ydw i’n cael mynediad i’r adeilad pan nad yw’r staff yno?

    Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn cael mynediad i'r llyfrgell trwy sganio'ch cerdyn llyfrgell a mewnosod eich rhif adnabod wrth y brif fynedfa.   
  • A allaf ddod ag eraill gyda mi?

    Na. Rhaid i bawb sy'n dod mewn gofrestru i ddefnyddio'r system a chael eu cerdyn eu hunain. Mae rheolau arbennig hefyd yn berthnasol i grwpiau gyda’r nos, gweler isod.
  • Sut ydw i'n gadael?

     Dim ond cerdded allan o'r prif ddrysau sydd angen, nid oes rhaid defnyddio’ch cerdyn na'ch rhif adnabod eto.
  • Beth allaf wneud yn ystod oriau ‘Open+’ os nad oes staff ar gael?

    • Pori drwy'r stoc, darllen, astudio a dod o hyd i wybodaeth.
    • Benthyg, dychwelyd ac adnewyddu llyfrau a DVDau gan ddefnyddio'r ciosgau hunan-wasanaeth.
    • Defnyddio'r Rhyngrwyd ar gyfrifiaduron y llyfrgell.
    • Gwneud defnydd o system ddi-wifren y llyfrgell ar eich dyfeisiau eich hun.
    • Archebu a chasglu pethau ar gadw.
    • Talu ffioedd a dirwyon gan ddefnyddio'r ciosgau hunan-wasanaeth.
  • A yw'n ddiogel?

    Mae camerâu teledu cylch cyfyng ar draws yr adeilad ar gyfer eich tawelwch meddwl. Gallwch godi'r ffôn a deialu 999 os oes argyfwng. Byddwn yn trafod rhai gweithdrefnau sylfaenol mewn sesiwn sefydlu pan fyddwch chi'n cofrestru ar gyfer aelodaeth 'Open+' a byddwn hefyd yn eich hysbysu bod y defnydd o'r llyfrgell y tu allan i oriau staff yn llwyr dan eich risg chi.  
  • Pam nad yw fy rhif adnabod yn gweithio i adael i mi fynd i mewn?

    Ni fydd eich rhif adnabod cyfredol yn gweithio nes i chi gofrestru ar gyfer ‘Open+’ a mynychu sesiwn sefydlu byr i'r system.  Efallai na fydd yn gweithio os oes gennych ddirwyon a thaliadau dyledus a fydd yn atal eich mynediad yn awtomatig. Rydym hefyd yn cadw'r hawl i atal eich rhif adnabod os na fyddwch yn dilyn ein telerau ac amodau.  Siaradwch â staff yn ystod oriau gwaith arferol os oes gennych unrhyw broblemau gyda'ch rhif adnabod.
  • Beth yw' telerau ac amodau 'Open+'?

    Rheolau - does dim modd byw hebddynt! Er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd ‘Open+’ yn dda i bawb, rydym yn gosod yr amodau canlynol i'r gwasanaeth yn y Barri:
    • Rhaid i chi ond ddefnyddio'ch cerdyn a'ch rhif adnabod eich hun i gael mynediad i'r llyfrgell yn ystod oriau ‘Open+’.
    • Rhaid i chi gadw’ch rhif adnabod yn ddiogel ac ni ddylech ei rannu gydag unrhyw un.
    • Rhaid i chi beidio â gadael i unrhyw un arall ddefnyddio'ch cerdyn i gael mynediad i'r adeilad.
    • Wrth fynd i mewn i'r llyfrgell, ni ddylech adael i unrhyw un fynd i mewn ar yr un pryd - mae cadw'r llyfrgell yn ddiogel yn bwysig a gallech chi fod yn gyfrifol am unrhyw ddifrod a wnânt.
    • Fel rhiant neu warcheidwad cyfreithiol, gallwch ddod â'ch plant dan 18 oed i'r llyfrgell ar eich cerdyn ‘Open+’ ond mae'n rhaid iddynt fod yn eich cwmni bob amser tra byddant yn yr adeilad.
    • Fel rhiant neu warcheidwad cyfreithiol, mae'n rhaid i chi nodi eich bwriad i ddod ag unrhyw blant dan 18 oed gyda chi, ar adeg gwneud eich cais ‘Open+’. Rhaid i chi wedyn ond dod â'r plant neu'r bobl ifanc a restrir ar eich aelodaeth. Rhaid i'r plentyn neu'r person ifanc hefyd fod yn aelod o'r llyfrgell a dylent ddefnyddio eu cerdyn eu hunain er mwyn benthyca eitemau yn ystod oriau ‘Open+’.
    • Rhaid i chi adael yr adeilad cyn i'r gwasanaeth ‘Open+’ gau a chymryd eich holl eiddo gyda chi.
    • Rhaid i chi fod yn ystyriol i bobl eraill sy'n defnyddio'r gwasanaeth ‘Open+’ ar yr un pryd â chi, parchu eu hawl at ddefnydd tawel y llyfrgell a pheidio â gweithredu mewn unrhyw ffordd a all achosi niwsans neu aflonyddu iddynt.
    • Rhaid i chi ddefnyddio pob gwasanaeth a chyfarpar mewn modd cyfrifol. Mae'n ofynnol i chi barchu'r rheoliadau o ran defnyddio adnoddau ac eiddo'r llyfrgell a chynorthwyo i'w hamddiffyn.
    • Ni ddylech fynd ag unrhyw ddeunydd cyfeirio, papurau newydd, offer na chelfi o'r llyfrgell. Gallwch ond fynd â llyfrau ac eitemau eraill a ddyrannwyd i chi gan y ciosgau hunan-wasanaeth, o'r llyfrgell.
    • Ni allwch ddod â chŵn, heblaw am gŵn cymorth, i'r llyfrgell.
    • Rhaid i chi beidio ag ysmygu, ac ni allwch ddod ag alcohol (na'i yfed), sylweddau anghyfreithlon, sigaréts electronig neu unrhyw beth y gellid ei ystyried yn arf. Rhaid i chi weithredu bob amser yn unol ag is-ddeddfau'r llyfrgell.
  • Beth am ddefnydd gan grŵp ac archebu ystafell?

    Gall grwpiau archebu defnydd o ystafell yn ystod oriau ‘Open+’. Mae angen i unrhyw un sy'n archebu ystafell fod yn arweinydd grŵp gydag aelodaeth ‘Open+’. Bydd arweinwyr grŵp yn gyfrifol am y grŵp a byddant yn gallu gadael aelodau'r grŵp i mewn yn ystod y noson. Siaradwch â staff am archebu ystafell o leiaf 24 awr ymlaen llaw, a chytuno ar amser i gael sesiwn sefydlu o ran defnyddio ystafell.   
  • Beth am gwestiynau a sylwadau?

    Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau, siaradwch â staff yn y Barri yn ystod oriau agor arferol. Gallwch hefyd anfon e-bost atom - BarryLibrary@valeofglamorgan.gov.uk