Cost of Living Support Icon

Grant Busnes Newydd a Thwf Busnes y Fro

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn parhau i fod wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi datblygiad economaidd a busnesau ledled y sir, ac maent wedi llwyddo i sicrhau cyllid i gyflawni Grant Busnes Newydd a Thwf Busnes y Fro, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Twf Lleol.

Pwrpas Bwrsariaeth Busnes Newydd a Thwf Cynnar y Fro yw hyrwyddo'r amodau a darparu cyllid i unigolion, grwpiau a busnesau cyfnod cynnar sy'n bwriadu cychwyn, gweithredu neu dyfu busnes neu fenter gymunedol ym Mro Morgannwg.

 

 

Vale Start Up Logo - no wording

Bydd y Grant ar agor ar gyfer ceisiadau rhwng 7 Gorffennaf a 31 Hydref 2026 NEU hyd nes y dyrennir y cyllid.   

 

Ynghylch Grant Busnes Newydd a Thwf Busnes y Fro

Gellir dyfarnu bwrsariaethau o hyd at £7,500, sy'n cynrychioli hyd at 80% o gost cyfanswm y prosiect i unrhyw un sy'n ymrwymo i greu menter amser llawn, bydd yr ymgeisydd yn ariannu'r 20% sy'n weddill o gost y prosiect.  

 

Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno cynllun busnes, rhagolwg llif arian o 3 blynedd a ffurflen gais a fydd wedyn yn cael ei hasesu gan banel i'w cymeradwyo.  

 

Y cymorth a ddarparwn pan fyddwch yn gwneud cais am Grant Busnes Newydd a Thwf Busnes y Fro

Pan fyddwch yn gwneud cais am fwrsariaeth, gallwn gynnig cymorth a chefnogaeth helaeth gan gynnwys: 

  • Nodi anghenion hyfforddiant a chyfeirio at yr help sydd ei angen 

  • Mentora ar sail unigol i'ch cefnogi i greu eich cais yn hyderus  

  • Meithrin y disgyblaethau sy'n ofynnol mewn busnes megis gosod nodau, rheoli amser, a sut i sicrhau twf eich busnes 

  • Nodi anghenion hyfforddi a chyfeirio at y cymorth sydd ei angen 

  • Gweithio gyda phartneriaid fel Busnes Cymru, Busnes mewn Ffocws ac Ymddiriedolaeth y Brenin i sicrhau cefnogaeth gyffredinol i fuddiolwyr. 

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i’r Cynllun Bwrsariaeth cwblhewch y ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb isod. 

 

 

 

Cwestiynau Cyffredin:

  • Faint yw'r grant bwrsariaeth?
    Gallwch wneud cais am uchafswm o £7,500.
  • Beth sy'n cael ei ystyried yn arian cyfatebol? Sut ydw i'n rhoi tystiolaeth o hyn?  
    Gallai arian cyfatebol fod o gyfrif banc cyfredol neu gynilion, benthyciad o'r banc, neu gerdyn credyd sy'n dangos terfyn sydd ar gael.  Gallai tystiolaeth fod yn gyfriflen cyfrif banc cyfredol neu gyfriflen cerdyn credyd gyda chronfeydd priodol wedi'u clirio.
  • Faint o arian cyfetabol sydd ei angen arnaf? 

    Mae angen i chi gael cyfanswm o 20% o gostau'ch prosiect fel arian cyfatebol: 

    • Enghraifft 1: Cyfanswm costau'r prosiect yw £4,500 yn denu dyfarniad bwrsariaeth o £3,600 gyda'r £900 sy'n weddill i'w dalu gan yr ymgeisydd
    • Enghraifft 2: Cyfanswm costau'r prosiect yw £9, 375 yn denu dyfarniad bwrsariaeth o £7,500 gyda'r £1,875 sy'n weddill i'w dalu gan yr ymgeisydd
  • A oes angen i mi fyw ym Mro Morgannwg i wneud cais? 
    Oes, rhaid i chi fod â phreswylfa barhaol ym Mro Morgannwg. Bydd rhan o'r diwydrwydd dyladwy yn cadarnhau eich bod wedi'ch rhestru ar y Gofrestr Etholiadol
  • Pryd mae'r grant yn  cau ar gyfer ceisiadau? 
    Caiff y grant ei ddyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.   Bydd y grant yn cau pan fydd yr arian wedi'i ddyrannu'n llawn neu ar 31 Hydref 2026, pa un bynnag sydd gyntaf.
  • Rydw i eisoes wedi prynu rhai eitemau ar gyfer fy musnes newydd, a all y grant ariannu'r rhain? 
    Na allai, rhaid i'r Panel gymeradwyo pob pryniant arfaethedig a rhaid i chi ddychwelyd copi wedi'i lofnodi o'ch llythyr cyllido cyn y gallwch wneud unrhyw bryniannau. 
  • Mae gen i syniad busnes da ond nid oes gen i’r arian i dalu am bopeth ymlaen llaw os yw fy nghais yn llwyddiannus, a yw hyn yn golygu na alla i wneud cais?  
    Rydyn ni’n gwerthfawrogi na fydd pawb yn gallu talu am bopeth ymlaen llaw a hawlio'n ôl-weithredol.  O dan yr amgylchiadau hyn, efallai y byddwn ni’n gallu cynnig taliadau ymlaen llaw fesul cam; siaradwch â'r Uwch Swyddog Adfywio.
  • Dydw i ddim wedi cwblhau Cynllun Busnes na Rhagolwg Ariannol o'r blaen, allwch chi helpu? 
    Fel rhan o'ch taith ymgeisio am grant, gofynnir i chi gofrestru gyda Busnes Cymru. Ar ôl cofrestru, bydd Cynghorydd Busnes Cymru penodol yn cael ei ddyrannu i'ch helpu i ddeall a chwblhau unrhyw ddogfennau ategol ar gyfer eich cais.
  • Faint o ddyfynbrisiau sydd angen i fi eu cael?  
    Bydd swm y dyfynbrisiau sydd eu hangen yn dibynnu ar gost eich eitem/gwasanaeth.  Gweler y tabl yn y nodiadau canllaw.
  • Pwy sy'n gwneud y penderfyniad ar fy nghais? 
    Mae'r penderfyniad terfynol ar bob cais yn cael ei wneud gan y Panel Bwrsariaeth, sy’n cynnwys nifer o gynrychiolwyr o'r Sector Cyhoeddus a Phreifat.

 

  • Pa mor fuan y byddaf yn clywed a yw fy nghais yn llwyddiannus? 
    Bydd y Panel yn gwneud penderfyniad ar eich cais o fewn 48 awr, a bydd Uwch Swyddog Adfywio yn cysylltu â chi dros y ffôn neu e-bost gyda'u penderfyniad.  Os byddwch chi’n llwyddiannus, bydd llythyr cyllido yn cael ei anfon atoch yn dilyn hynny; os byddwch chi’n aflwyddiannus, byddwch chi’n cael cymorth datblygu adeiladol ac ymarferol i'ch helpu yn y dyfodol.
  • Ar ôl i mi gwblhau fy mhryniannau sut ydw i'n hawlio fy nyfarniad grant? 
    Bydd angen i chi lenwi'r adrannau hawlio ar eich Cynllun Caffael a'i ddychwelyd atom gyda chopi o'r holl anfonebau perthnasol a thystiolaeth o’r taliadau (e.e. cyfriflen banc).  Ar ôl gwirio a chymeradwyo hyn, byddwn ni’n cyfarwyddo ein Hadran Gyllid i roi eich taliad.
  • Beth sy'n digwydd os yw'r dyfynbrisiau gwreiddiol yn uwch neu'n is pan ddaw'r anfonebau? 
    Byddem yn eich annog i gysylltu cyn gynted â phosibl os bydd unrhyw beth yn newid.  Rydym yn deall y gall costau newid – os yw'n newid bach yn y gost efallai y gellir ei ganiatáu, os yw'n newid mwy efallai y bydd angen ei gymeradwyo gan y Panel. 
  • Pryd y byddaf yn derbyn fy nhaliad grant? 
    Bydd y taliad grant yn cael ei dalu i'ch cyfrif a enwebwyd o fewn 28 diwrnod o i'ch hawliad gael ei gymeradwyo.

 

Ceisiadau Llwyddiannus

  • Darganfyddwch ychydig mwy am rai o'r busnesau anhygoel y mae ein bwrsariaeth wedi gallu eu cefnogi, mae pob un wedi'i leoli'n lleol ac efallai bod ganddynt rywbeth i'w gynnig i chi:   
    • Milkshed, Penarth - Mae'r Milkshedyn cynnig lleoedd gwaith unigryw a hyblyg ger Canol Tref Penarth i weithwyr llawrydd, busnesau bach a phobl greadigol.
    • Asiantau Tai Botham Williams - Mae Asiantwyr Tai Botham Williams yn Asiantaeth Dai ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain sydd â ffocws ar gwsmeriaid, sy’n meddwl yn annibynnol, ac sydd â chostau cystadleuol.
    • Gaffah - Mae Gaffah yn llwyfan ffrydio ar gyfer ffilmiau annibynnol, myfyrwyr a chelf.  Mae'r casgliad o ffilmiau yn dod o bedwar ban byd ac yn rhoi blas i wylwyr o rywbeth na fydden nhw'n ei gael gan wasanaethau prif ffrwd. 
    • The Head Space, Dinas Powys Salon gwallt a harddwch sy'n ymroddedig i greu'r fersiwn orau ohonoch.     
    • Red Ruin Entertainment - gwasanaeth ffilmio a golygu fideo 

    • Mentora Therapiwtig Lynne Jones - mentora therapiwtig 

    • Coastal Plumbing and Heating South Wales Ltd - Gwasanaeth plymio a gwresogi

    • Humata Yoga - Dosbarthiadau ioga, hyrwyddo iechyd meddyliol, emosiynol a chorfforol 

    • Kid and Clover - cig mynnod geifr cynaliadwy a fagwyd ar borfa

    • AJ Grigoriou Plumbing and Heating - gwasanaethau plymio a gwresogi

    • Soul and Soma - Stiwdio Pilates ac Ioga

    • Dirwest - diodydd di-alcohol a wneir ym Mro Morgannwg 
    • Mapstones Dog Grooming - gwasanaeth trin cŵn Day Visual Planner app

    • Ap Day Visual Planner – busnes arobryn sydd wedi'i gynllunio i ddod â strwythur i fywyd bob dydd i unigolion niwroamrywiol a'u gofalwyr   

     

  

 

Ystyriaethau a chefnogaeth eraill 

Busnes Cymru

Os ydych chi'n meddwl am ddechrau busnes, gall Busnes Cymru helpu gyda'u hystod ymarferol o arweiniad a chymorth.  

 

 

Eiddo Deallusol

Syniadau a chreadigaethau a ddiogelir gan y gyfraith yn helpu pobl i gael credyd, gwneud arian ac atal eraill rhag defnyddio eu gwaith heb ganiatâd.

 

 

 

 

 Sut i gysylltu â ni:

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r tîm Datblygu Economaidd 

 

 

Ymwelwch â ni ar  Facebook l Instagram @ValeEconomy l LinkedIn 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor.

 

Hysbysiad Preifatrwydd y Wefan