Nod y newid hwn yw gwella safon y deunydd rydym yn ei gasglu i’w ailgylchu, sy’n well ar gyfer yr amgylchedd ac a fydd yn ein helpu i ailgylchu mwy yn y DU. Mae hefyd yn unol â’r dull a gynghorir ar gyfer Cymru gyfan gan Lywodraeth Cymru.
Mae profiad awdurdodau lleol eraill yng Nghymru yn dangos mai'r ffordd orau o gynyddu faint o wastraff sy'n cael ei ailgylchu ac ansawdd yr ailgylchu hwn yw defnyddio cynwysyddion ar wahân ar gyfer y gwahanol fathau o ddeunyddiau yn eich gwastraff, megis cardfwrdd, papur, gwydr ac ati. Mae'n golygu bod yr ailgylchu a gasglwn o'ch cartref yn cael ei halogi cyn lleied â phosibl gan ddeunyddiau eraill, felly gellir creu rhywbeth newydd ohono yn y pen draw.
Bydd gan y cerbydau newydd a fydd yn casglu eich ailgylchu wahanol rannau ar gyfer gwahanol ddeunyddiau a bydd ein criwiau casglu yn rhoi eich ailgylchu yn uniongyrchol yn y rhannau cywir.